Gostyngiadau'r dreth gyngor – unigolion sy'n gadael yr ysgol neu'r coleg
Beth a olygir wrth rywun sy’n gadael yr ysgol neu'r coleg?
Ystyrir bod unigolyn sy’n gadael yr ysgol neu’r coleg, at ddibenion gostyngiad treth gyngor:
- Yn 18 neu'n 19 oed
- Wedi gadael cwrs addysg cymwys rhwng 30 Ebrill a 1 Tachwedd
Beth yw cwrs addysg cymwys?
Gall unigolyn wneud cais am ostyngiad treth gyngor os ydynt wedi gadael cwrs addysg sy'n:
- Parhau am fwy na 3 mis
- Cwrs y mae angen ei fynychu am o leiaf 12 awr yr wythnos
- Cwrs sy’n cael ei ddysgu’n bennaf wyneb yn wyneb neu ar-lein
- Cwrs nad yw’n cael ei ddilyn drwy’r gwaith neu swydd arall
- Cwrs sydd fel arfer yn cael ei gynnal rhwng 8:00am a 5:30pm
Faint o ostyngiad allwch chi ei gael?
Mae eich bil treth gyngor llawn yn seiliedig ar o leiaf ddau oedolyn (pobl dros 18 oed) yn byw mewn eiddo.
Nid yw pobl sy'n gadael ysgol neu goleg yn cyfrif tuag at nifer yr oedolion yr ystyrir eu bod yn byw mewn eiddo.
Mae hyn yn golygu os yw 2 oedolyn yn byw mewn eiddo ac mae 1 ohonynt yn unigolyn sydd wedi gadael yr ysgol neu’r coleg, bydd y bil yn cael ei gyfrifo fel pe bai dim ond 1 oedolyn yn byw yno. Bydd y bil 25% yn llai.
Os yw'r unig unigolyn sy'n byw yn yr eiddo yn un sydd wedi gadael yr ysgol neu’r coleg, bydd y bil 50% yn llai.
Gwybodaeth sydd ei hangen
Cyn gwneud cais am ostyngiad ar gyfer unigolyn sydd wedi gadael yr ysgol neu’r coleg, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:
- Teitl y cwrs
- ID Myfyriwr
- Enw a chyfeiriad yr ysgol neu'r coleg.
Gwneud cais am ostyngiad treth gyngor – unigolion sy’n gadael yr ysgol neu’r coleg
Sylwer, os ydych yn gymwys i gael gostyngiad, neu eich eithrio rhag y dreth gyngor, gofynnir i chi lenwi ffurflen adolygu bob blwyddyn. Os na fyddwch yn cwblhau'r ffurflen adolygu, bydd yn rhaid i chi dalu eich treth gyngor yn llawn.
Os bydd eich amgylchiadau'n newid ac nad ydych bellach yn gymwys i gael gostyngiad, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallech gael tâl cosb. E-bost revenues@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 21/11/2025
Nôl i’r Brig