Disgowntiau'r dreth gyngor - prentisiaid
Pwy sy'n brentis?
Mae unigolyn yn cael ei ystyried yn brentis at ddibenion y dreth gyngor os ydynt yn:
- Cael eu cyflogi i ddysgu crefft neu broffesiwn, ac yn
- Cael cyflog neu lwfans neu’r ddau, nad ydynt uwch na’r gyfradd yr awr o dan yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
- Dilyn rhaglen hyfforddi sy’n arwain at gymhwyster sy’n cael ei achredu gan gorff sy’n cael ei gydnabod gan Y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau (Ofqual) neu Gymwysterau Cymru.
Faint o ddisgownt allwch chi ei gael?
Mae eich bil treth gyngor llawn yn seiliedig ar o leiaf ddau oedolyn (pobl dros 18 oed) yn byw mewn eiddo.
Nid yw prentisiaid yn cyfrif tuag at nifer yr oedolion yr ystyrir eu bod yn byw mewn eiddo.
Mae hyn yn golygu os yw 2 oedolyn yn byw mewn eiddo ac mae 1 ohonynt yn brentis, bydd y bil yn cael ei gyfrifo fel pe bai dim ond 1 oedolyn yn byw yno. Bydd y bil 25% yn llai.
Os yw'r unig berson sy'n byw yn yr eiddo yn brentis, bydd y bil 50% yn llai.
Dogfennau sydd eu hangen
Cyn gwneud cais am ddisgownt i brentisiaid, bydd angen y dogfennau canlynol arnoch:
- datganiad o’ch statws prentisiaeth gan eich cyflogwr.
- prawf o enillion
Gwneud cais am ddisgownt yn y dreth gyngor - prentisiaid
Sylwer, os ydych yn gymwys i gael disgownt, neu eich eithrio rhag y dreth gyngor, gofynnir i chi lenwi ffurflen adolygu bob blwyddyn. Os na fyddwch yn llenwi’r ffurflen adolygu, bydd yn rhaid i chi dalu eich treth gyngor yn llawn.
Os bydd eich amgylchiadau'n newid ac nad ydych bellach yn gymwys i gael disgownt, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallech gael tâl cosb.
Diwygiwyd Diwethaf: 24/06/2026
Nôl i’r Brig