Gostyngiadau'r dreth gyngor - Person yn y ddalfa

Pwy sy’n cael ei ystyried fel person yn y ddalfa?

Ystyrir bod person yn y ddalfa at ddibenion y dreth gyngor os yw'n un neu fwy o'r canlynol:

  • Wedi'i gadw yn y carchar, ysbyty neu ryw le arall trwy orchymyn llys
  • Wedi’i gadw hyd nes iddo gael ei allgludo dan Ddeddf Mewnfudo 1971
  • Wedi'i gadw mewn man diogel o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983

Faint o ostyngiad allwch chi ei gael?

Mae eich bil treth gyngor llawn yn seiliedig ar o leiaf ddau oedolyn (pobl dros 18 oed) yn byw mewn eiddo.

Nid yw pobl sy’n cael eu cadw yn y ddalfa yn cyfrif tuag at nifer yr oedolion yr ystyrir eu bod yn byw mewn eiddo.

Mae hyn yn golygu os yw 2 oedolyn yn byw mewn eiddo ac mae un ohonynt yn y ddalfa, bydd y bil yn cael ei gyfrifo fel pe bai dim ond 1 oedolyn yn byw yno. Bydd y bil 25% yn llai.

Os yw'r unig berson sy'n byw yn yr eiddo yn y ddalfa, byddai’n cael ei eithrio 100%.

Dogfennau sydd eu hangen i wneud cais

Yn ystod y broses ymgeisio, gofynnir i chi am y manylion canlynol:

  • Enw a chyfeiriad y sefydliad lle cafodd y person ei gadw neu lle mae'n cael ei gadw ar hyn o bryd
  • Rhif gwasanaeth y carchar os yw’r person wedi bod yn y carchar, neu os yw yn y carchar ar hyn o bryd
  • Copi o'r gorchymyn cadw (os yw ar gael)

Gwneud cais am ostyngiad y dreth gyngor - person yn y ddalfa

Sylwer, os ydych yn gymwys i gael gostyngiad, neu eich eithrio rhag y dreth gyngor, gofynnir i chi lenwi ffurflen adolygu bob blwyddyn. Os na fyddwch yn cwblhau'r ffurflen adolygu, bydd yn rhaid i chi dalu eich treth gyngor yn llawn.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid ac nad ydych bellach yn gymwys i gael gostyngiad, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallech gael tâl cosb. E-bost revenues@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 21/11/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Refeniw a Budd-daliadau

Ffôn: 01495 766129

Ebost: revenues@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig