Gostyngiadau'r dreth gyngor - person sengl

Mae'r bil Treth Gyngor llawn yn cymryd bod 2 oedolyn (18 oed neu'n hŷn) yn byw mewn eiddo.

Os mai un oedolyn yn unig sy'n byw yn yr eiddo, mae’r dreth gyngor yn cael ei ostwng 25%. Gelwir hyn yn ostyngiad person sengl.

Gwneud cais am ostyngiad treth gyngor – person sengl

Rhaid i chi roi gwybod i ni os oes unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau personol, trefniadau byw neu sefyllfa ariannol/incwm a allai effeithio ar eich gallu i hawlio. 

Sylwer, os ydych yn gymwys i gael gostyngiad, neu eich eithrio rhag y dreth gyngor, gofynnir i chi lenwi ffurflen adolygu bob blwyddyn. Os na fyddwch yn cwblhau'r ffurflen adolygu, bydd yn rhaid i chi dalu eich treth gyngor yn llawn.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/11/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Refeniw a Budd-daliadau

Ffôn: 01495 766129

Ebost: revenues@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig