Disgowntiau'r dreth gyngor - gweithwyr gofal
Pwy sy'n cael ei ystyried yn weithiwr gofal?
Mae person yn cael ei ystyried yn weithiwr gofal at ddibenion y dreth gyngor os yw’n:
- Cael i gyflogi i roi gofal a chymorth i berson.
- Byw yn yr un cartref â'r person maen nhw'n gofalu amdano
- Darparu gofal am o leiaf 35 awr yr wythnos.
- Cael tal sy’n llai na £44 yr wythnos.
- Nid yw'n berthynas sydd wedi ei anghymhwyso h.y. nid ydynt yn gymar i'r person y maent yn gofalu amdano nac yn briod ag ef/hi, ac nid ydynt yn rhiant sy'n gofalu am blentyn o dan 18 oed.
Rhaid i'r person sy'n derbyn gofal hefyd fod yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol
- Lwfans gweini uwch
- Cyfradd uchaf neu ganol elfen gofal y lwfans byw i’r anabl
- Cynnydd yn y gyfradd pensiwn anabledd
- Lwfans gweini cyson.
- Cyfradd safonol neu elfen uwch taliad byw’n ddyddiol y taliad annibyniaeth personol (PIP) dan Ddeddf Diwygio Lles 2012 a78(3)
- Taliad annibyniaeth y Lluoedd Arfog o dan Orchymyn y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd Arfog Wrth Gefn [Cynllun Iawndal] 2011
Faint o ddisgownt allwch chi ei gael?
Mae eich bil treth gyngor llawn yn seiliedig ar o leiaf ddau oedolyn (pobl dros 18 oed) yn byw mewn eiddo.
Nid yw pobl sy’n weithwyr gofal yn cyfrif tuag at nifer yr oedolion yr ystyrir eu bod yn byw mewn eiddo.
Mae hyn yn golygu os yw 2 oedolyn yn byw mewn eiddo ac mae 1 ohonynt yn weithiwr gofal, bydd y bil yn cael ei gyfrifo fel pe bai dim ond 1 oedolyn yn byw yno. Bydd y bil 25% yn llai.
Os ydym yn pennu bod neb yn byw yn eich eiddo gan fod pawb yn cael ei ddiystyru, gall y bil fod 50% yn llai.
Dogfennau sydd eu hangen
Cyn gwneud cais am ddisgownt ar gyfer gweithiwr gofal, bydd angen y dogfennau canlynol arnoch:
- Copi o'r llythyr dyfarnu budd-dal sy'n dangos bod y person sy'n cael gofal yn derbyn un o'r budd-daliadau cymwys canlynol:
- Lwfans gweini uwch
- Cyfradd ganol neu uwch elfen gofal y Lwfans Byw i'r Anabl
- Cynnydd yng nghyfradd y pensiwn anabledd
- Lwfans Gweini Cyson
- Unrhyw gyfradd o elfen byw’n ddyddiol y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Taliad annibyniaeth y Lluoedd Arfog
Gwneud cais am ddisgownt yn y dreth gyngor - gweithwyr gofal
Sylwer, os ydych yn gymwys i gael disgownt, neu eich eithrio rhag y dreth gyngor, gofynnir i chi lenwi ffurflen adolygu bob blwyddyn. Os na fyddwch yn cwblhau'r ffurflen adolygu, bydd yn rhaid i chi dalu eich treth gyngor yn llawn.
Os bydd eich amgylchiadau'n newid ac nad ydych bellach yn gymwys i gael disgownt, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallech gael tâl cosb
Diwygiwyd Diwethaf: 24/06/2026
Nôl i’r Brig