Gwneud cais am ostyngiad ar y dreth gyngor - gweithwyr gofal
Mae eich bil treth gyngor llawn yn seiliedig ar ddau oedolyn (pobl dros 18), o leiaf, yn byw mewn eiddo.
Dydy gweithwyr gofal ddim yn cyfrif tuag at nifer yr oedolion yr ystyrir eu bod yn byw mewn eiddo.
Mae hyn yn golygu os yw 2 oedolyn yn byw mewn eiddo ac mae 1 ohonynt yn weithiwr gofal, bydd y bil yn cael ei gyfrifo fel pe bai dim ond 1 oedolyn yn byw yno. Byddai hyn yn golygu gostyngiad o 25% ar y bil.
Os ydym yn cyfrif bod neb yn byw yn eich eiddo gan fod pawb wedi eu diystyru, gallwn dynnu 50% oddi ar eich bil.
Gwneud cais am ostyngiad ar y dreth gyngor - gweithwyr gofal
Diwygiwyd Diwethaf: 12/05/2026
Nôl i’r Brig