Gwneud cais am ostyngiadau'r dreth gyngor – pobl sydd yn y ddalfa

Mae eich bil treth gyngor llawn yn seiliedig ar ddau oedolyn (pobl dros 18), o leiaf, yn byw mewn eiddo.

Dydy pobl sydd yn y ddalfa ddim yn cyfrif tuag at nifer yr oedolion yr ystyrir eu bod yn byw mewn eiddo.

Mae hyn yn golygu os yw 2 oedolyn yn byw mewn eiddo ac mae 1 ohonynt yn y ddalfa, bydd y bil yn cael ei gyfrifo fel pe bai dim ond 1 oedolyn yn byw yno. Byddai hyn yn golygu gostyngiad o 25% ar y bil.

Os yw'r unig un sy'n byw yn yr eiddo yn y ddalfa, bydd eithriad o 100%.

 

Gwneud cais am ostyngiadau'r dreth gyngor – pobl sydd yn y ddalfa

 

Diwygiwyd Diwethaf: 07/11/2025 Nôl i’r Brig