Gwneud cais am ostyngiad treth gyngor - myfyrwyr a nyrsys dan hyfforddiant

Mae eich bil treth gyngor llawn yn seiliedig ar o leiaf ddau oedolyn (pobl dros 18 oed) yn byw mewn eiddo.

Nid yw myfyrwyr a nyrsys dan hyfforddiant yn cyfrif tuag at nifer yr oedolion yr ystyrir eu bod yn byw mewn eiddo.

Mae hyn yn golygu os yw 2 oedolyn yn byw mewn eiddo ac mae 1 ohonynt yn fyfyriwr neu nyrs dan hyfforddiant, bydd y bil yn cael ei gyfrifo fel pe bai dim ond 1 oedolyn yn byw yno. Bydd y bil 25% yn llai.

Os yw'r unig bobl sy'n byw yn yr eiddo yn fyfyrwyr, mae’r eiddo wedi ei eithrio rhag y dreth gyngor.

 

Gwneud cais am ostyngiad treth gyngor - myfyrwyr a nyrsys dan hyfforddiant

 

Diwygiwyd Diwethaf: 07/11/2025 Nôl i’r Brig