Eithriadau i'r dreth gyngor - Cartrefi gwag
Os yw eiddo yn wag a heb ddodrefn, bydd yn cael ei eithrio rhag y dreth gyngor am y 6 mis cyntaf o'r dyddiad y cafodd ei wagio (dim dodrefn).
Gallai hyn fod y dyddiad cyn i chi gymryd yr eiddo. Byddai hyn yn golygu y byddech yn cael eich eithrio am y rhan hynny o'r cyfnod 6 mis sy'n berthnasol i chi, a hynny’n unig.
Cysylltwch â ni i weld a yw'r eiddo dal i fod yn gymwys i gael ei eithrio.
Gallwch ofyn am eithriad i’r dreth gyngor os yw eich eiddo yn:
- cael atgyweiriadau mawr neu newidiadau strwythurol
- yn wag ac yn eiddo i elusen
- heb ddodrefn sylweddol ac yn wag am lai na chwe mis
- yn eiddo i denant sydd yn cael ei ddal yn y carchar, mewn ysbyty neu le arall a orchmynnwyd gan y llys
- yn eiddo i unigolyn sydd wedi mynd i fyw mewn cartref preswyl neu gartref nyrsio gofal meddwl, yn cynnwys hosteli
- yn eiddo i un sy’n talu’r dreth gyngor, sydd bellwch wedi marw
- yn cael ei gynnal ar gyfer gweinidog crefyddol
- yn eiddo i rywun arall sy’n byw yn rhywle arall i gael gofal neu roi gofal personol
- yn eiddo sydd wedi cael ei adael yn wag gan fyfyriwr
- yn rhandy gwag sydd ynghlwm wrth adeilad sy’n cael ei feddiannu
- yn eiddo sydd wedi ei wahardd rhag cael ei feddiannu yn ôl y gyfraith neu ddeddf seneddol
- morgeisia mewn meddiant
- yn eiddo sydd wedi ei adael yn wag gan unigolyn sy’n fethdalwr
- llain carafán neu angorfa wag
Os ydych chi’n meddwl y gallai fod hawl gennych i gael eich eithrio, cysylltwch â ni.
Diwygiwyd Diwethaf: 06/11/2025
Nôl i’r Brig