Gostyngiad oherwydd Anabledd
Gall pobl anabl sydd angen lle ychwanegol fod yn gymwys i gael gostyngiad yn y dreth gyngor.
Os yw eich cartref yn gymwys, bydd eich bil yn cael ei ostwng un band prisio. Os yw eich cartref yn y band isaf (Band A) byddwch yn cael gostyngiad o un rhan o chwech o’r bil. Gallwch gael gwybod mwy am fandiau prisio ar dudalen Bandiau’r Dreth Gyngor.
Ni fydd hyn yn effeithio ar werth eich cartref, na’i fand ar y rhestr brisio.
Pwy all wneud cais?
Nid oes rhaid i'r person sy'n talu'r dreth gyngor fod yn anabl, gall fod yn unrhyw aelod o'r aelwyd, gan gynnwys plentyn.
I dderbyn y gostyngiad, mae person anabl yn ‘sylweddol anabl ac yn anabl yn barhaol' yn sgil salwch, anaf neu namau cynhwynol neu reswm arall. Mae rhai cyflyrau yn gwaethygu’n raddol, ac, mewn achosion o’r fath, bydd angen gwneud dyfarniad pan fydd anabledd yn datblygu’n sylweddol.
Amodau’r gostyngiadau
Ystafell a ddefnyddir yn bennaf gan berson anabl ac eithrio ystafell ymolchi, cegin neu doiled
Ni fydd y ffaith bod person anabl yn defnyddio ystafell, yn arwain at ostyngiad. Mae pawb angen rhywle i gysgu, bwyta, byw, ac ati, ond weithiau mae'n rhaid bod ystafell ar gael yn arbennig i ddiwallu anghenion person anabl. Gall yr ystafell naill ai fod yn ystafell sydd eisoes yn bodoli, neu'n ystafell/estyniad ychwanegol, ond rhaid bod cyswllt rhwng anabledd y person a'r defnydd o'r ystafell.
Rhaid i'r ystafell fod o bwys mawr i les y person anabl oherwydd natur ei anabledd. Pe na bai’r ystafell neu'r nodwedd ar gael, a fyddai'n gorfforol amhosibl neu'n anodd iawn byw yn yr eiddo, ac a fyddai eu hiechyd yn dioddef, neu a fyddai'r anabledd yn dod yn fwy difrifol?.
Ystafell ymolchi neu gegin arall ar gyfer y person anabl.
Ni fydd y ffaith bod gan eiddo ail ystafell ymolchi neu gegin, yn arwain at ostyngiad oni bai ei fod yn hanfodol i ddiwallu anghenion y person anabl. Nid yw ail doiled yn cael ei ystyried yn ystafell ymolchi.
Angen defnyddio cadair olwyn dan do.
Ni fydd person sydd fel arfer yn defnyddio cadair olwyn ond na all wneud hynny dan do, yn gymwys. Nid yw storio cadair olwyn dan do yn ddigon i fod yn gymwys.
Gwneud cais am ostyngiad yn y dreth gyngor oherwydd anabledd
Os oes angen ffurflen bapur arnoch, ffoniwch 01495 762200.
Diwygiwyd Diwethaf: 11/09/2025
Nôl i’r Brig