Anawsterau o ran talu eich Treth y Cyngor

Diben yr adran hon yw rhoi cyngor i chi ar beth i'w wneud os ydych yn cael trafferth talu eich Treth Gyngor, ac esbonio beth allai ddigwydd os nad ydych yn talu.

Llythyrau atgoffa

Byddwn yn anfon llythyr atgoffa atoch os ydych yn hwyr yn talu. Os nad ydych yn talu'r arian sy'n ddyledus fel sy'n ofynnol byddwch yn colli'r hawl i dalu mewn rhandaliadau a bydd yn rhaid i chi dalu'r balans cyfan ar eich cyfrif o fewn saith diwrnod. Os nad ydych yn talu'r balans o fewn saith diwrnod, byddwn yn anfon gwŷs atoch.

Os ydych yn talu'r swm y gofynnwn amdano ond yn hwyr unwaith eto gyda thaliadau yn y dyfodol, byddwn yn anfon ail lythyr atgoffa atoch. Os nad ydych yn talu'r swm y gofynnir amdano, byddwn yn anfon gwŷs atoch. Os ydych yn talu'r swm y gofynnwn amdano ond yn hwyr unwaith eto gyda thaliadau yn y dyfodol, byddwn yn anfon rhybudd olaf atoch. Ar yr adeg hon, byddwch yn colli'r hawl i dalu mewn rhandaliadau a bydd yn rhaid i chi dalu'r balans cyfan ar eich cyfrif o fewn saith diwrnod. Os nad ydych yn talu'r balans o fewn saith diwrnod, byddwn yn anfon gwŷs atoch.

Os cyhoeddir gwŷs bydd costau pellach yn cael eu hychwanegu at eich cyfrif. Bydd eich achos yn cael ei glywed yn y llys ynadon a bydd y Cyngor yn gofyn i'r llys am orchymyn atebolrwydd.

Sut gallaf eich atal rhag cymryd camau yn fy erbyn?

Pan fyddwn yn cael gorchymyn atebolrwydd, byddwn yn anfon llythyr atoch yn dweud bod gorchymyn atebolrwydd wedi'i wneud. Pan fyddwch yn derbyn y llythyr hwn, dylech gysylltu â ni ar unwaith i drafod eich sefyllfa a gwneud cytundeb i dalu'r swm sy'n ddyledus gennych.

Beth sy'n digwydd os wyf am wneud trefniant i dalu'r hyn sy'n ddyledus gennyf?

Gallwch gysylltu â ni am gyngor ar unrhyw adeg os ydych yn methu taliadau. Os ydych wedi derbyn gwŷs, gallwch wneud cytundeb ond bydd yn rhaid i chi dalu costau'r llys a byddwn yn dal i gael y gorchymyn atebolrwydd gan y llys ynadon.

Cyn i chi gysylltu â ni, fe allai fod yn ddefnyddiol i chi lunio rhestr o'ch incwm a'ch treuliau, a chyfrifo faint y gallwch fforddio ei ad-dalu bob wythnos neu bob mis.

Beth sy'n digwydd os wyf yn diffygdalu ar y trefniant?

Os ydych yn hwyr yn talu yn unol â'r trefniant ac nid ydym yn clywed oddi wrthych, byddwn yn casglu'r arian sy'n ddyledus gennych mewn un o'r ffyrdd canlynol.

  • Byddwn yn cymryd yr arian o'ch cyflog
  • Byddwn yn cymryd yr arian o'ch Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith
  • Byddwn yn defnyddio asiantau gorfodi

Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â ni os ydych yn cael trafferth talu.

Beth sy'n digwydd os ydych yn trosglwyddo fy nghyfrif i'r asiantau gorfodi?

Pan fyddwn wedi trosglwyddo eich cyfrif i'r asiantau gorfodi, byddan nhw'n cysylltu â chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, dylech gysylltu â'r asiantau gorfodi.

Mae'r gorchymyn atebolrwydd yn caniatáu i'r asiant gorfodi gymryd nwyddau o'ch eiddo er mwyn i ni allu eu gwerthu a defnyddio'r arian i dalu'r Dreth Gyngor sy'n ddyledus gennych. Dim ond mewn achosion eithafol y bydd hyn yn digwydd mewn gwirionedd, gan y byddai'n well gan yr asiant gorfodi ddod i drefniant gyda chi i glirio'r ddyled dros gyfnod o amser.

Ar ôl i ni drosglwyddo eich cyfrif i'r asiantau gorfodi, byddant yn ychwanegu costau pellach at eich dyled.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Treth Gyngor

Ffôn: 01495 766129

Ebost: revenues@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig