Sut i ddod o hyd i'ch rhif cyfrif Treth Gyngor ac allwedd unigryw

Rhif cyfrif

Gallwch ddod o hyd i'ch rhif cyfrif:

  • ar eich bil papur
  • ar unrhyw lythyrau eraill a anfonwyd atoch am eich cyfrif (hysbysiadau atgoffa neu hysbysiadau terfynol)
  • ar eich cyfriflen banc neu os ydych yn bancio ar-lein, os ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog
  • drwy fewngofnodi i'ch cyfrif Treth y Cyngor cyfredol ar-lein

Allwedd unigryw

Mae angen eich allwedd unigryw i gofrestru ar gyfer cyfrif Treth y Cyngor ar-lein am y tro cyntaf. Gellir dod o hyd i'r allwedd unigryw ar y bil neu'r hysbysiad adennill diweddaraf yr ydym wedi'i anfon atoch. Rhaid i chi edrych ar yr hysbysiad neu'r bil diweddaraf a anfonwyd atoch gan y bydd yr allwedd yn newid am resymau diogelwch nes eich bod wedi creu cyfrif ar-lein..

Mae’r allwedd yn sensitif felly rhaid cofnodi’n union fel y dangosir.

Diwygiwyd Diwethaf: 19/04/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Refeniw a Budd-daliadau

Ffôn: 01495 766129

E-bost: revenues@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig