Oriau Agor Swyddfeydd dros Wyliau Banc
Cyfnodau Cau’r Swyddfeydd
Bydd yr holl adeiladau sydd ar agor i’r cyhoedd yn cau am 5pm ddydd Gwener 26 Mai 2023 ac yn ailagor ddydd Mawrth 30 Mai 2023.
Mae mwyafrif y pethau y gellir eu gwneud yn ein swyddfa, hefyd yn hawdd i’w gwneud ar lein. Mae ein ffurflenni ar lein ar gael yn yr adrannau Rhoi Gwybod / Gofyn / Gwneud Cais ar y wefan.
Taliadau
Y ffordd gyflymaf a symlaf o dalu yw trwy ein llinell dalu awtomataidd ar 0300 4560516 neu gallwch dalu ar lein.
Os ydych ein hangen ar frys unrhyw bryd dros gyfnod yr ŵyl, rhowch alwad i ni ar 01495 762200.
Canolfannau Gofal Cwsmeriaid
Bydd Canolfan Gofal Cwsmeriaid Cwmbrân yn cau am 4:30pm ddydd Iau 25 Mai 2023 a bydd yn ailagor am 9am ddydd Iau 1 Mehefin 2023.
Bydd Canolfan Gofal Cwsmeriaid Pont-y-pŵl yn cau am 4:30pm ddydd Mercher 24 Mai 2023 a bydd yn ailagor am 9am ddydd Mercher 31 Mai 2023.
Bydd Canolfan Gofal Cwsmeriaid Blaenafon yn cau am 4:30pm ddydd Mawrth 23 Mai 2023 a bydd yn ailagor am 9am ddydd Mawrth 30 Mai 2023.
Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu
NI fydd newidiadau i’r diwrnodau casglu gan y byddwn yn casglu gwastraff ac ailgylchu fel arfer ar wyliau banc.
Gwenwch yn siŵr fod eich gwastraff a'ch ailgylchu ar y palmant neu’r man casglu erbyn 6am ar fore eich casgliad.
Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGC)
Bydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd ar agor drwy gyfnod ŵyl y banc, fel y gellir gwaredu ar wastraff o’r cartref.
Dyma’r amserau agor:
- Dydd Llun i ddydd Sadwrn - 08:00 i 17.45
- Dydd Sul - 09:00 i 17.45
Siop Ailddefnydd The Steelhouse
Bydd Siop Ailddefnydd y Steelhouse yn Y Dafarn Newydd ar agor drwy gyfnod ŵyl y banc, fel y gellir cyfrannu a phrynu eitemau o ansawdd da.
Dyma’r amserau agor:
- Dydd Llun i ddydd Sul - 9.30am - 4.30pm
Llyfrgelloedd
Bydd pob llyfrgell ar gau ddydd Llun 29 Mai 2023.
Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl
Bydd Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl ar gau ddydd Llun 29 Mai 2023.
Mynwentydd
Bydd pob mynwent yn Nhorfaen yn parhau ar agor yn ystod cyfnod gŵyl y banc, a hynny rhwng 9:00am a 7:00pm.
Gwasanaeth Cofrestryddion
Bydd Swyddfa Gofrestru Torfaen yn cau am 4:30pm, ddydd Gwener 26 Mai ac yn ailagor am 9.00am, ddydd Mawrth 30 Mai 2023.
Seremonïau
Cynhelir seremonïau drwy apwyntiad yn unig.
I drefnu apwyntiad yn ystod oriau’r swyddfa, ffoniwch 01495 742132.
Cymorth y Tu Allan i Oriau Swyddfa / Mewn argyfwng
Os oes angen i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Cofrestryddion y tu allan i oriau am unrhyw rhai o’r rhesymau a ganlyn:
- mater brys o ran seremoni sydd ar fin cael ei chynnal
- claddedigaeth ffydd sydd angen ei chynnal o fewn 24 awr
- priodas neu bartneriaeth sifil ar frys (os yw un cymar yn ddifrifol wael ac nad oes disgwyl iddo/iddi wella)
Rhowch alwad i wasanaeth tu allan i oriau mewn argyfwng yn Nhorfaen ar 01495 762200 a byddant yn trefnu i aelod o’r Tîm Cofrestru gysylltu â chi’n uniongyrchol.
Diwygiwyd Diwethaf: 09/05/2023
Nôl i’r Brig