Prif Weithredwr a Phrif Weithredwr Cynorthwyol

Stephen Vickers yw’r Prif Weithredwr.

Mae Stephen yn gweithio yn y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl a gellir cysylltu ag e naill ai dros y ffôn ar 01495 762200 neu drwy e-bost, stephen.vickers@torfaen.gov.uk

Mae gan Stephen y cyfrifoldebau canlynol:

  • Rhoi arweiniad, gweledigaeth a chyfeiriad strategol i staff y Cyngor a sicrhau bod y Cyngor wedi ei strwythuro, ei reoli a’i ariannu’n briodol er mwyn cyflenwi ei flaenoriaethau ac amcanion corfforaethol
  • Cynllunio a hyrwyddo gwerthoedd y Cyngor – Teg, Cefnogol, Effeithiol ac Arloesol
  • Rhoi cyngor lefel strategol i’r Cabinet ac Aelodau Etholedig ar strategaeth, gweledigaeth a pherfformiad y Cyngor, gan weithredu fel prif gynghorydd polisi’r Cyngor
  • Arwain, datblygu a herio Tîm Arweinyddiaeth y Cyngor i sicrhau bod ansawdd rheolaeth a gwasanaethau’r Cyngor yn cael eu cynnal a’u datblygu, gyda chanolbwyntio ar y cwsmer
  • Gweithredu fel llysgennad ar ran y Cyngor a’n cymunedau, gan gynrychioli eu buddiannau ar bob lefel
  • Datblygu partneriaethau a pherthnasau cynhyrchiol ac effeithiol gydag unigolion a sefydliadau allanol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol
  • Gweithredu fel Pennaeth Gwasanaeth Cyflogedig statudol y Cyngor

Y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adnoddau) yw Nigel Aurelius.

Mae Nigel yn gweithio yn y yn y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl a gellir cysylltu ag e naill ai dros y ffôn ar 01495 762200 neu drwy e-bost, nigel.aurelius@torfaen.gov.uk.

Mae Nigel yn cynorthwyo Stephen i gyflawni ei gyfrifoldebau fel Prif Weithredwr. Hefyd, mae Nigel yn cyflawni rôl statudol y Swyddog Adran 151 ac yn arwain cyflenwad y swyddogaethau corfforaethol a chefnogaeth ddemocrataidd canlynol:

  • Adnoddau Dynol Strategol
  • Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol
  • Gwasanaethau Trafodaethol AD
  • Datblygiad Sefydliadol
  • Rheolaeth Asedau
  • Gwasanaethau Cymorth Busnes a Democratiaeth
  • Gwasanaethau Gweinyddol a Busnes
  • Gwasanaethau Ariannol
  • Gweinyddiaeth Pensiynau a Buddsoddiad
  • Archwilio Mewnol
  • Refeniw, Budd-daliadau a Gwasanaethau Cwsmeriaid
  • Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Caffael
  • Archifau
Diwygiwyd Diwethaf: 30/07/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyfarwyddwyr Strategol

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig