Trwyddedau Alcohol ac Adloniant

Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth sy'n gysylltiedig â thrwyddedu safleoedd ac unigolion sy'n gwerthu neu'n cyflenwi alcohol, yn darparu adloniant i'r cyhoedd, gan gynnwys dramâu, ffilmiau, cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi'i recordio, cyfleusterau ar gyfer dawnsio a pherfformio dawns, lluniaeth yn hwyr yn y nos, ac yn cynnal digwyddiadau chwaraeon dan do.

Coronafirws (COVID-19) Gwybodaeth am Wasanaethau (Diweddarwyd 12 Medi 2022)

Ar 26 Rhagfyr 2021 fe ddaeth Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygiad) 2021 rym, gan ddisodli rheoliadau blaenorol sy'n ymwneud â chyfyngiadau yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu diwygio wrth i'r cyfyngiadau yng Nghymru gael eu lleddfu. Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau cyfredol bob amser.

Dychwelodd Cymru i Lefel Rhybudd Sero o Lefel Rhybudd 2 ar 28 Ionawr 2022. Mae gwybodaeth benodol yn ymwneud â chyfyngiadau Lefel 0 bellach ar gael hefyd, gweler y dolenni isod:

Cyhoeddwyd canllawiau gan Lywodraeth Cymru i helpu cyflogwyr, gweithwyr a’r hunangyflogedig i ddeall sut i weithio’n ddiogel yn ystod pandemig COVID-19, yn unol â Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafirws. Y bwriad yw rhoi cyfle ichi, o fewn fframwaith ymarferol, i feddwl am yr hyn sydd angen i chi ei wneud i barhau, neu ailgychwyn gweithrediadau.

Mae gwybodaeth ar gael am y meysydd canlynol:

Os hoffech chi riportio adeilad trwyddedig sy’n caniatáu ‘yfed ar ôl oriau’, cysylltwch â’r Heddlu ar 101 neu e-bostiwch yr adran drwyddedau licensing@torfaen.gov.uk

Mae'r tîm Trwyddedu yn gofyn, hyd nes y rhoddir rhybudd pellach, bod yr holl geisiadau a'r dogfennau gofynnol yn cael eu cyflwyno trwy e-bost i licensing@torfaen.gov.uk. Rhaid i bob cais gael ei gwblhau'n llawn a rhaid cynnwys rhif ffôn fel y gallwn gysylltu â'r ymgeisydd i dalu'r ffi ymgeisio berthnasol.

Byddwn yn cadarnhau ein bod wedi derbyn pob cais trwy e-bost a byddwn yn darparu cyfeirnod unigryw ar gyfer y cais. Yna bydd Galw Torfaen, canolfan cyswllt dros y ffôn y Cyngor, yn galw'r ymgeisydd i gymryd y taliad angenrheidiol, gan ddyfynnu'r cyfeirnod unigryw ar gyfer y cais.

Sylwch na fydd cais yn cael ei ystyried yn ddilys ac na fydd yn cael ei gwblhau yn iawn hyd nes y derbynnir y taliad. Rhaid derbyn ceisiadau adnewyddu a thaliad cyn i'r drwydded ddod i ben.

Mae gwiriadau hawl i weithio wedi'u haddasu dros dro i'w gwneud hi'n haws i gyflogwyr gynnal y gwiriadau yn ystod achos Coronafirws. Mae canllawiau ar sut i gynnal gwiriad Hawl i Weithio yn ystod yr achos ar gael ar GOV.UK website.

Ar hyn o bryd mae'r tîm yn gweithio o ddydd i ddydd yn dilyn arweiniad fel y'i darperir a gall pob un o'r uchod newid ar unrhyw adeg benodol. Byddwn yn eich cynghori am unrhyw newidiadau fel y cawn wybod amdanynt a diolchwn am eich cydweithrediad a'ch amynedd.

Y dull cyswllt a ffefrir gennym yn ystod y cyfnod hwn yw trwy e-bost licensing@torfaen.gov.uk

Posteri i’w harddangos – Ble i fynd am gymorth meddygol

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gofyn am gymorth y diwydiant Trwyddedig i rannu rhywfaint o wybodaeth bwysig i gadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel. Maent yn cynnal ymgyrch i annog pobl i ddefnyddio'r gwasanaeth cywir, neu fynychu'r ysbyty cywir ar gyfer eu hanghenion, pan fyddant yn sâl neu wedi cael anaf.

Isod, gallwch ddod o hyd i bosteri i’w lawr lwytho a’u rhoi mewn mannau cyhoeddus a thoiledau:

Polisi Deddf Trwyddedu 2003

Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn mynnu bod pob Awdurdod Trwyddedu yn llunio a chyhoeddi datganiad o'i bolisi trwyddedu o leiaf unwaith bob pum mlynedd. Rhaid cyhoeddi'r polisi cyn iddo gyflawni unrhyw swyddogaethau trwyddedu o dan y Ddeddf.

Daeth Polisi’r Ddeddf Trwyddedu 2003 i rym ar 1 Tachwedd 2020.

Isafbris Unedau Alcohol

Ar 2 Mawrth 2020 daeth Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 i rym.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r ddeddfwriaeth i geisio lleihau nifer y salwch a marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru.

Mae'r gyfraith newydd yn golygu bod yn rhaid i fanwerthwyr nawr godi isafbris o 50c yr uned am ddiodydd alcoholig, yn seiliedig ar faint o alcohol sydd yn y cynnyrch. Mae hyn yn berthnasol i alcohol a werthi AR y safle ac ODDI AR y safle. Mae gwerthu a manwerthu ar-lein hefyd wedi'u cynnwys yn y gyfraith, felly os ydych chi'n prynu gan fanwerthwr ar-lein efallai y byddan nhw'n gofyn am wirio'ch cod post cyn cadarnhau pris eu cynhyrchion.

Ni ddylai mân-werthwr eich camarwain ar bris. Os oes gennych bryderon bod siop yn codi pris uwch ar y til na'r hyn a ddangosir ar y label, dylech roi gwybod i'r adran Safonau Masnach, trwy ffonio'r llinell cyngor cenedlaethol i ddefnyddwyr ar 03454 040506.

Os oes gennych drwydded i werthu alcohol yn Nhorfaen, yn enwedig mewn siop ddiodydd, yna byddwch yn derbyn ymweliad gan Dîm Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i roi mwy o wybodaeth i chi ar sut mae'r gyfraith yn effeithio arnoch chi. Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn y cyfamser, cysylltwch â trading.standards@torfaen.gov.uk

Fel arall, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys posteri y gellir eu lawr lwytho a thaflenni gwybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ecsbloetio Plant yn Rhywiol - Adnabod yr arwyddion

Er mwyn helpu i gadw plant yn ddiogel, mae Heddlu Gwent unwaith eto yn annog aelodau o'r cyhoedd i fod yn wyliadwrus am y math hwn o droseddoldeb, ac i gysylltu â hwy drwy ffonio 101 neu 999 mewn argyfwng gydag unrhyw wybodaeth sydd ganddynt. Er mwyn helpu aelodau o'r cyhoedd adnabod arwyddion o gamfanteisio a cham-drin, mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi tudalen ar y we.

Byddai'n well gan yr Heddlu glywed gan aelodau pryderus o'r cyhoedd sy'n rhoi gwybod am faterion nad ydynt yn golygu camfanteisio'n rhywiol ar blant yn y pen draw, yn hytrach na pheidio cael eu galw o gwbl.

Oriau Agor Swyddfa

Yr oriau agor ar gyfer ymwelwyr personol i'r swyddfa yn Y Dafarn Newydd, i gysylltu a'r tîm trwyddedu yw dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9:00am a 12:00 canol dydd. Lle mae hyn yn achosi anawsterau, mewn amgylchiadau eithriadol, gellir gwneud apwyntiad i ymweld y tu allan i'r oriau hyn. Cysylltwch â'r swyddfa i drefnu hyn. Rydym hefyd ar gael ar y ffôn (01633 647284) rhwng 9:00am a 4:30pm.

Sigaréts electronig

Yn ddiweddar, rydym wedi cael ymholiadau am ddefnyddio sigaréts electronig mewn safleoedd perthnasol a cherbydau trwyddedig. Dyma'r cyngor/wybodaeth a roddwn ar hyn o bryd:

  • Er nad yw'r rhain yn anghyfreithlon, byddai'n anodd profi nad sigaréts go iawn ydyn nhw pe bai swyddog gorfodi sy'n digwydd mynd heibio yn eu gweld nhw
  • Nid yw'n cyfleu'r neges gywir i gwsmeriaid a gallai arwain at fynd yn groes i'r ddeddfwriaeth
  • Mae tafarndai JD Wetherspoons wedi penderfynu rhoi polisi ar waith yn fewnol i atal defnyddio'r rhain ar eu safleoedd

Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac yn cyhoeddi gwybodaeth fan yma pan fydd angen.

Cyfeiriad Swyddog Trwyddedu'r Heddlu

Sylwer, dylid anfon unrhyw ohebiaeth sydd angen ei hanfon at Swyddog Trwyddedu'r Heddlu,yn:

Prif Swyddog yr Heddlu
Adran Trwyddedu
Heol Caerffili
Ystrad Mynach
CF82 7EP

Deddf Trwyddedu 2003 

Daeth Deddf Trwyddedu 2003 i rym ar 24 Tachwedd 2005. Ym mis Chwefror 2005, dechreuodd yr Awdurdod Trwyddedu weinyddu'r broses o drosi Trwyddedau Ynadon i'r Trwyddedau Personol a Thrwyddedau Safleoedd newydd. Fe wnaeth hyn effeithio ar bob safle sy'n gwerthu alcohol neu'n darparu lluniaeth yn hwyr yn y nos ac adloniant a reolir. 

Os oes gennych bryderon ynglŷn ag unrhyw rai o'r ceisiadau am drwyddedau dan y ddeddf newydd, efallai y bydd gennych yr hawl i gyflwyno sylwadau neu wrthwynebu ceisiadau. I gael gwybodaeth am sut i wneud hyn, gweler y daflen wybodaeth yn yr adran gyffredinol. 

Mae'r Ddeddf Trwyddedu yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar yr Awdurdod Trwyddedu i gyhoeddi Cofrestr Gyhoeddus o geisiadau a'r trwyddedau a ganiatawyd. Gellir gweld y gofrestr drwy ddilyn y ddolen yn yr adran gyffredinol. 

Mae Hysbysiadau Ymgynghori - Deddf Trwyddedu 2003 i'w gweld yma.

Deddf Cerddoriaeth Fyw 2012

Daeth Deddf Cerddoriaeth Fyw 2012 i rym ar 1 Hydref 2012.  Darparwyd crynodeb byr o ddarpariaethau'r Ddeddf er gwybodaeth i chi.

Canllawiau ar gyfer "Digwyddiadau Cymunedol"

Mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi canllaw i Ddigwyddiadau Cymunedol. Mae'r ddogfen hon ar gyfer Cynghorwyr, ond mae'n berthnasol i bawb sy'n gysylltiedig â threfnu digwyddiadau o'r fath. Mae'n ymdrin ag agweddau o bob math, megis cau strydoedd, trwyddedau, yswiriant ac atebolrwydd cyhoeddus. 

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen Y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon. 

Diwygiwyd Diwethaf: 12/09/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Trwyddedu

Ffôn: 01633 647286

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk 

Nôl i’r Brig