| Rhaid anfon ceisiadau i'r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae'r safle wedi'i leoli ynddi.   Rhaid i bob cais ddilyn fformat penodol a rhaid cynnwys unrhyw ffi ofynnol ynghyd ag amserlen weithredu, cynllun o’r safle a ffurflen ganiatâd gan oruchwyliwr y safle (yn achos ceisiadau lle y bydd gwerthu alcohol yn weithgaredd trwyddedadwy).   Bydd amserlen weithredu yn cynnwys manylion:   
y gweithgareddau trwyddedadwyyr amseroedd pan fydd y gweithgareddau'n cael eu cynnal unrhyw amseroedd eraill pan fydd y safle ar agor i’r cyhoedd yn achos ymgeiswyr sy’n dymuno cael trwydded gyfyngedig, y cyfnod y mae angen y drwydded ar ei gyfergwybodaeth am oruchwyliwr y safle a fydd unrhyw alcohol sydd i’w werthu yn cael ei yfed ar y safle ynteu oddi ar y safle, neu’r ddauy camau y bwriedir eu cymryd i hyrwyddo'r amcanion trwyddeduunrhyw wybodaeth arall sy'n ofynnol Gall fod yn ofynnol i ymgeiswyr hysbysebu eu cais a rhoi rhybudd o’r cais i unrhyw unigolyn neu gorff cyfrifol arall, e.e. yr awdurdod lleol, prif swyddog yr heddlu neu’r awdurdod tân ac achub.   Rhaid i’r cais gael ei ganiatáu gan yr awdurdod trwyddedu, a gall fod amodau ynghlwm wrtho. Rhaid cynnal gwrandawiad os cyflwynir unrhyw sylwadau ynglŷn â’r cais. Os caiff gwrandawiad ei gynnal, gall y drwydded gael ei chaniatáu neu ei chaniatáu gydag amodau ychwanegol, gall gweithgareddau trwyddedadwy sydd wedi’u rhestru yn y cais gael eu heithrio neu gall y cais gael ei wrthod.   Bydd yr awdurdod trwyddedu yn rhoi hysbysiad o'i benderfyniad i’r ymgeisydd, unrhyw un sydd wedi gwneud sylwadau perthnasol (h.y. sylwadau nad oeddent yn wacsaw neu'n flinderus) a phrif swyddog yr heddlu.   Hefyd, gellir gwneud ceisiadau i amrywio neu drosglwyddo trwydded. Gall fod angen cynnal gwrandawiad os cyflwynir sylwadau neu os nad yw amodau’n ymwneud â throsglwyddo wedi cael eu bodloni.   Ceisiadau eraill y gellir eu gwneud yw ceisiadau am hysbysiad awdurdod dros dro yn dilyn marwolaeth, analluogrwydd neu fethdaliad deiliad trwydded neu geisiadau adolygu. |