Tŵr Ffoli
‘Tŵr o Gadernid ar Fryn o Freuddwydion’
Mae i'r Tŵr Ffoli le arbennig iawn yng nghalonnau pobl Pont-y-pŵl. Cafodd ei adeiladu tua 1765 gan John Hanbury Ysw. o Park House, Pont-y-pŵl. Doedd dim pwrpas ymarferol iddo gan nad oedd ganddo lawr na tho yn wreiddiol. Dyweder ei fod yn ffasiynol ar y pryd i ddynion bonedd adeiladu at 1,000 troedfedd o uchder a chafodd y tŵr ei adeiladu ar ran uchaf y crib er mwyn cyflawni hyn. Yr oedd fodd bynnag 2 droedfedd yn fyr pan gafodd ei gwblhau! Mae ganddo olygfeydd gwych o rannau garw a gwyrdd Gwent a dyweder y gellir gweld dim llai na saith sir o'r tŵr ar ddiwrnod braf.
Hanes
Cafodd y tŵr ei andewyddu gan Capel Hanbury Leigh yn 1831. Cyfeirir at ei bwysigrwydd mewn sawl cofnod, gyda thaith ysgol gan Ysgol Fabanod Griffithstown ym 1914, yn defnyddio'r tŵr ar gyfer adolygu daearyddiaeth. Erbyn 1924 roedd wedi dod yn lle poblogaidd iawn ar wyliau banc gyda rhai cannoedd o bobl yn mynd yno i gael picnic a mwynhau'r awyr iach.
Ym 1935, amcangyfrifwyd bod dros 15,000 o bobl wedi gwylio coelcerth yn cael ei thanio i ddathlu jiwbilî arian y Brenin Siôr V a thanau tebyg yn cael eu tanio ar ben y bryniau o amgylch.
Erbyn y 1930au hwyr roedd y tŵr yn dirywio ac yn fuan wedyn rhoddwyd hysbysiad arno'n rhybuddio ei fod yn beryglus. Fodd bynnag, roedd ei arwyddocad i'r gymuned leol yn dal i gael ei nodi ac ym 1937, fe ysgrifennodd Myfanwy Haycock, bardd a darlunydd enwog gerdd am y tŵr.
Ar y 9fed o Orffennaf 1940 ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd cafodd y tirnod enwog hwn ei ddymchwel yn ôl gorchymyn gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Ofnwyd y byddai'n arwain awyrennau bomio'r Almaen at y ffatri Ordnans Brenhinol cyfagos yng Nglascoed.
Yn fuan wedi diwedd y rhyfel, ym 1946 ac eto ym 1948, lansiwyd ymgyrchoedd i ail adeiladu'r tŵr, ond ni fuont yn llwyddiannus, yn bennaf oherwydd bod adeiladu tai yn flaenoriaeth bwysicaf.
Adferiad
Ym 1990, penderfynodd nifer o haneswyr a chadwraethwyr amlwg lleol bod yr amser wedi dod i geisio adfer y Tŵr Ffoli a ffurfwyd pwyllgor i wneud ceisiadau i amryw o gyrff cyllido yn ogystal â chynnal thrafodaethau agored gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Ar y pryd nid oedd darluniau ar gael o fesuriadau'r Tŵr ond llwyddodd cloddio dechreuol ar y safle i ddatguddio'r sylfeini a gafodd eu defnyddio fel sail i baratoi'r darluniau newydd.
Cafodd asedau'r pwyllgor gwreiddiol eu trosglwyddo i gwmni newydd. CROFT Pont-y-pŵl, sef ‘The Campaign to Rebuild the Old Folly Tower’. Yna fe lansiodd y cwmni hwn ei apêl gyhoeddus ‘Sponsor a Stone’ a oedd yn llwyddiant ysgubol.
Yn dilyn ymgynghoriadau gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol, cafwyd caniatad cynllunio yn amodol ar rai amodau cynllunio yn cynnwys maes parcio ar ben Lôn Ffoli.
Parhaodd yr ymgyrch i godi arian i adeiladu'r Tŵr Ffoli trwy 1990 a 1991, gyda cherrig o adeilad Ysgol Cwmffrwdoer, a gafodd ei dymchwel, yn cael eu rhoi at yr achos ynghyd ag erthyglau yn y papurau cenedlaethol a lleol ar yr ymgyrch.
Yn ystod 1993, aeth yr ail adeiladu yn ei flaen gyda chladdu capsiwl amser o fewn y waliau a gosod y garreg sylfaen gan Syr Richard Hanbury Tenison.
Cafwyd nawdd gan Avesta Sheffield ar ffurf drws dur gwrthstaen a chymorth grant gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Phwyllgor Tywysog Cymru a sicrhaodd bod y gwaith yn parhau.
Erbyn Medi 1993, roedd y Tŵr Ffoli wedi codi i oddeutu 20 troedfedd ac roedd i'w weld yn amlwg ar grib y bryn. Yn ystod misoedd y gaeaf rhoddwyd y gwaith o barhau i adeiladu cam nesaf y Tŵr Ffoli i dendr ac fe'i dyfarnwyd i Davies and Jenkins, adeiladwyr lleol.
Ym 1994, fel rhan o'i amserlen yn dathlu 25 mlynedd ers ei goroni, addawodd Tywysog Cymru y byddai'n agor y Tŵr Ffoli'n swyddogol ar 22 Gorffennaf, felly bwriwyd ymlaen gyda'r gwaith.
Erbyn Gorffennaf roedd y gwaith wedi ei orffen ar y tu fewn a'r tu allan i'r Tŵr, tynnwyd y sgaffaldiau a chafodd llyfr ei gynhyrchu oedd yn dangos yr holl waith a wnaed.
Ar yr 22ain Gorffennaf 1994, agorwyd y Tŵr Ffoli'n swyddogol mewn seremoni gan Dywysog Cymru ac unwaith eto roedd yn dirnod balch ar grib y bryn i bawb ei weld.
Gobeithio y bydd y 'Tŵr o Gadernid ar Fryn o Freuddwydion' yn parhau am sawl cenhedlaeth i ddod.
Lleoliad
Mae mynediad i'r Tŵr trwy gae gyda da byw ac fe all fod yn fwdlyd. Rhaid cadw pob ci ar dennyn.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig