Y Groto Cregyn

Yn y 18fed ganrif, roedd adeiladau mewn gerddi yn cael eu cynllunio nid yn unig er mwyn prydferthwch ond hefyd er mwyn cyffroi'r emosiynau dyfnaf.

Roedd hyn yn arbennig o wir gyda'r ffasiwn am adeiladu grotos - strwythurau wedi eu naddu'n fras oedd yn awgrymu teithiau dirgel i grombil y ddaear, ble byddai disgleirdeb mwynau a chregyn hynafol yn hollti'r cysgodion a'r tywyllwch.

Mae'r groto silindrog ym Mharc Pont-y-pŵl wedi ei adeiladu o dywodfaen lleol gyda tho conigol, ond mae'r tu allan yn blaen ac ni cheir unrhyw awgrym o'r hyn sy'n gorwedd y tu mewn iddo.

Mae esgyrn a dannedd anifeiliaid wedi eu gosod yn y llawr mewn patrymau i ffurfio cylchoedd, arcau, sêr, calonnau a diemwntau.  Mae'r waliau carreg yn foel gyda chrisialau calsit a gweddillion mwsog, coed a llystyfiant arall mewn mannau.  Mae'r ddwy ffenest sy'n dal yno'n cynnwys gwydr lliw.

Y nenfwd yw gogoniant y Groto.  Mae o ffanfowt, chwe ffan yn codi o chwe philer, ac yng nghanol y gromen mae pibonwy calch artiffisial yn estyn i lawr.  Mae'r pileri a'r nenfwd wedi eu gorchuddio gan filoedd o gregyn wedi eu gwasgaru gyda mineralau a phibonwy go iawn o ogofâu lleol.

Hanes

Mae'r groto cregyn ym Mharc Pont-y-pŵl yn cael ei ystyried i fod y groto sydd wedi goroesi orau yng Nghymru ac fe saif ar grib 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

Er i'r groto gael ei adeiladu fel tŷ haf ar gyfer y teulu Hanbury, y meistri gwaith haearn oedd yn berchen ar Barc Pont-y-pŵl, mae ei union oed yn ansicr. Credir fodd bynnag i'r strwythur sylfaenol gael ei adeiladu i John Hanbury rywbryd cyn ei farwolaeth ym 1784.

Yn y 1800oedd cynnar fe dreuliodd mab John, Capel Hanbury Leigh, lawer o'i amser yn ychwanegu at a gwella'i dŷ a'r tir yn y parc. Mae'r clod am ysbrydoli llawer o'r gwelliannau hyn yn mynd i wraig Capel, Molly, gweddw gyfoethog o'r Knoll ger Castell Nedd, yn cynnwys yr addurniad gwych o gregyn yn y groto.

Hyd heddiw mae dyfalu mawr ynglŷn â phwy adeiladodd y tu mewn cregyn.  Fodd bynnag, tra y bu'n byw yn y Knoll, roedd yn hysbys bod gan Molly gasgliad o gregyn a bod gan ei theulu lyfrau lluniau 18fed ganrif ar grotos.  Mae'n bosib felly, yn dilyn arweiniad merched cyfoethog eraill, i Molly dreulio oriau maith yn casglu'r cregyn a'u gosod yn y groto ym Mhont-y-pŵl ei hun.

Posibilrwydd arall yw mai cynllun creu swyddi cynnar oedd yn gyfrifol am y gwaith addurno.  Cofnododd y Monmouthshire Merlin yn ystod gaeaf caled 1829 – 30 i Capel Hanbury Leigh roi gwaith i oddeutu 85 o ddynion, merched a phlant ar dir y parc.

Cafodd y groto ei ddefnyddio gan y teulu Hanbury fel lleoliad picnic ar gyrchoedd saethu hyd nes yn gynnar yn yr 20fed ganrif.  Cafwyd digwyddiad nodedig tua 1882 pan fu Tywysog Cymru (Edward VII yn ddiweddarach) yn aelod o'r criw a gafodd bicnic ger y groto.  Roedd popeth yn mynd yn dda nes agor dwy jeroboam o champagne a gludwyd i'r groto (pob un yn gyfwerth â phedair potel arferol) a chael eu bod yn gorciog!

Y Gwaith Adfer

Yn ystod gaeaf 1991/92 fe gwympodd rhannau o do'r Groto, gan godi amheuon ynghylch dyfodol yr adeilad.

Roedd y Groto wedi bod ar gau i'r cyhoedd ers ymron i 20 mlynedd.  Roedd cyflwr yr adeilad yn wael yn y 1970au ond erbyn y 1990au roedd mewn cyflwr trist iawn.  Roedd y to wedi colli ei siâp ac yn gollwng dŵr, heb sôn am y fandaliaid, ac roedd y ddau wedi achosi difrod mawr i rannau o'r tu mewn addurnedig.

Heb weithredu roedd yn amlwg nad oedd dyfodol i'r Groto.  Dechreuodd y gwaith dechreuol o weld faint fyddau cost ei adfer. Roedd y gost yn ddychrynllyd o uchel ac aethpwyd ati i chwilio am gymorth ariannol allanol i'w ychwanegu at arian y Cyngor.

Cafodd to'r Groto ei glytio yn Ionawr 1992 ond o fewn misoedd roedd difrod pellach wedi ei achosi gan wahanol elfennau.

Yn ffodus, sicrhawyd arian sylweddol gan Cadw a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn ystod 1992/93.

Cafodd y tu allan ei adfer ym 1993/4 a chymerodd y gwaith 8 mis i'w gwblhau ac roedd yn cynnwys:

  • Ail adeiladu'r simdde garreg
  • Gosod trawstiau pren newydd yn y to
  • Adnewyddu gwaith carreg oedd wedi ei ddifrodi
  • Gosod drws, ffenestri a chaeadau newydd

Cwblhawyd y gwaith i'r tu allan yn haf 1994 am gost o £75,000.  Ymgymerwyd â'r gwaith sensitif hwn gan Nick Barter, adeiladwr o Drefynwy, gyda chyngor arbenigol gan Benseiri Davies Sutton.

Roedd y tu allan i'r Groto wedi ei adfer yn llawn yn awr, ac yn gwrthsefyll gwynt a glaw, ond roedd y tu fewn cregyn yn dal i fod mewn cyflwr truenus.  Yn wir, er gwaethaf ymdrechion roedd y nenfwd a'r pileri cregyn wedi dioddef yn ystod y gwaith  a wnaed i adfer y to ac roedd angen gwaith adfer mawr ar y nenfwd ffanfowt, y pileri, y waliau a'r llawr.

Yn ystod 1995 dechreuodd yr ymgyrch unwaith eto i godi arian i gyfateb i adnoddau'r Cyngor.  Sicrhawyd arian gan Cadw ac fe dderbyniodd y Groto un o grantiau cyntaf Cronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru.

Ym 1996 – dechreuwyd ar y gwaith o adfer y tu fewn cregyn.  Dewisiwyd tîm arbenigol o warchodwyr (St Blaise Ltd) gydag arbenigedd mewn adfer gwaith plastr a chregyn cymhleth.  Roedd trwsio'r nenfwd, pileri, waliau a lloriau yn broses araf a chain a barhaodd am gyfnod o 4 mis.

Cadwyd cofnod ffotograffig manwl o'r tu fewn cregyn rai blynyddoedd ynghynt ac roedd hwn yn werthfawr yn sicrhau bod y gwaith adnewyddu'n ffyddlon i gymeriad gwreiddiol yr adeilad. Roedd nifer o'r cregyn a mineralau oedd wedi dod yn rhydd wedi cael eu cadw a chawsant eu defnyddio, ynghyd a defnydd newydd, yn y broses adfer.

Cafodd y gwaith o adfer un o Grotos Cregyn gorau Cymru ei gwblhau ym mis Rhagfyr 1996, gan alluogi ymwelwyr a phreswylwyr Pont-y-pŵl i ymweld â'r Grotto gwych ar ben y bryn a mwynhau'r tu fewn cregyn gogoneddus a'r golygfeydd panoramig.

Roedd gosod y cregyn ac ail adeiladu'r to yn grefft ynddo'i hun a gadawyd y gwaith i'r gwarchodwr.  Roedd creu patrymau oedd yn gweithio'n dda yn y cynlluniau oedd yn bodoli, a phlethu'r eiddew rhwng y mwynau ac o amgylch y postyn drws er mwyn iddynt edrych fel petaent wedi tyfu a meddainnu'r adeilad yn her anferth ond yn llwyddiannus iawn yn y pen draw.

Roedd y gwreiddwaith o amgylch y waliau a'r nenfwd yn llawn o bryf pren.  Er mwyn sefydlogi'r strwythurau hyn oedd bron yn wag chwistrellwyd cymysgedd o resin a thoddydd i'r tyllau gyda nodwydd hypodermig.  Pan oedd y toddydd yn anweddu roedd y resin yn caledu ac yna'n gwneud y gwraidd yn solet.

Cafodd y cadeiriau gwledig eu hadfer yn ofalus trwy roi darnau newydd ynddynt, atgyweirio darnau oedd wedi torri a chrafu haenau o baent modern. Roedd y cadeiriau wedi eu paentio'n wreiddiol, a chafodd y lliw gwyrdd ei ddadansoddi dan ficrosgop a'i ddyddio yng nghanol y 19eg ganrif.  Penderfynwyd ail baentio'r cadeiriau i gyd mewn lliw oedd wedi ei gymysgu'n arbennig i fod yr un fath â'r gwreiddiol.

Lleoliad

Rhaid cerdded i gyrraedd y Groto Cregyn a bydd angen dringo tir anwastad, serth mewn mannau, ac nid yw'n addas ar gyfer rhai llai abl a phlant ifanc.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Parc Pont-y-pŵl

Ffôn: 01495 766754

Nôl i’r Brig