Mannau chwarae
Rydym yn cynnal 47 o fannau chwarae i blant, mannau chwarae aml-ddefnydd a pharciau sglefrio ledled y fwrdeistref.
Mae cyfanswm o 69 o fannau chwarae yn Nhorfaen.
Dod o hyd i’ch man chwarae agosaf
Mae parciau sy’n cael eu cynnal gan y Cyngor yn ymddangos mewn lliw pinc ar y map. Mae parciau sy’n cael eu cynnal gan Fron Afon yn ymddangos mewn lliw porffor. Mae gwyrdd ac oren yn dangos parciau preifat neu rhai sy’n cael eu rheoli gan gyngor cymuned.
Mae'r holl barciau yn hygyrch i gadeiriau olwyn, ac mae offer cynhwysol ar gael yn y mannau chwarae canlynol:
- Parc Pont-y-pŵl
- Llyn Cychod Cwmbrân
- Parc Cae Brooklands
- Parc Pontnewynydd
Mae’r parciau’n cael eu harchwilio’n rheolaidd, ac mae offer a ffensys yn cael eu cynnal i fodloni safonau diogelwch.
Sylwch na chaniateir cŵn, yn cynnwys cŵn ar dennyn, mewn unrhyw fannau chwarae.
Rhoi gwybod am broblem gyda pharc neu le chwarae
Diwygiwyd Diwethaf: 12/09/2025
Nôl i’r Brig