Cored Afon Lwyd

Mae'r Afon Lwyd yn mynd i mewn i'r parc ger y Gerddi Eidalaidd ac yn gadael ger Pontymoile. Dyweder mai'r Afon Lwyd yw'r afon ail uchaf yn Ewrop o ran codi a gostwng ac mewn cyfnodau o law trwm, mae'r afon yn cyrraedd ei huchafbwynt yn gyflym ac mae'n troi yn ffrwd wyllt mewn dim amser.

Cafodd y gored a pheirianwaith y llifddor eu gosod yn yr afon i sicrhau bod llif cryf o ddŵr ar gael trwy'r amser i droi'r olwynion dŵr oedd yn pweru'r gefeiliau cyfagos.  Roedd gefeiliau haearn cynnar fel hyn, a sefydlwyd cyn dyfodiad stêm, bob amser yn agos at afonydd oedd yn llifo'n gyflym er mwyn manteisio ar y ffynhonnell pŵer naturiol hwn.

Gellir gweld i'r gored gael ei hadeiladu'n wreiddiol o goblau caled sydd wedi cael eu tanseilio dros amser ac wedi llithro bellach.  Mae'r garreg fawr wreiddiol yn dal yn yr afon a rhagwelir efallai y bydd cyfle i adfer yr ardal hon yn y blynyddoedd i ddod.

Mae rheolwyr y parc yn parhau i weithio gyda Grŵp Cadwch Gymru'n Daclus a sefydliadau gwirfoddol eraill i ymgymryd â'r gwaith o lanhau nifer o afonydd trwy gydol y flwyddyn.  Gobeithir y bydd gosod llamfa bysgod ar gored Pontymoile yn gwneud yr afon yn gynefin werthfawr unwaith eto i frithyll a physgod eraill.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Parc Pont-y-pŵl

Ffôn: 01495 766754

 

Nôl i’r Brig