Cylch Meini'r Orsedd

Codwyd Cylch Meini'r Orsedd ym 1923 cyn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn y Parc ym 1924. Mae'r Eisteddfod yn ddathliad o lenyddiaeth, celfyddyd, diwylliant a cherddoriaeth Cymraeg ac mae'n tarddu o hen draddodiad barddol.  Yn ystod y seremoni mae'r Bardd yn cael ei wobrwyo a rhoddir gwobrau am gyfraniadau pwysig i ddiwylliant Cymraeg.

Mae'r cylch meini'n cael ei adnabod fel cylch Gwyngil ac mae'r meini eu hunain yn cael eu galw'n meini gwynion a meini crair.  Cyfeirir at y garreg yn y canol fel Maen Gorsedd. Mae gosodiad y cylch wedi ei nodi yn y rheolau sy'n llywodraethu'r seremoni.

Mae nifer o feirdd yn cael eu hurddo trwy gydol y dathliad ac mae gan bob un liw sy'n addas i'w urdd ei hun.  Er enghraifft, bydd bardd yn gwisgo gwisg las, mae gwisg derwydd yn wen a gwisg ofydd yn werdd i ddangos y twf mewn dysg a gwyddoniaeth.  Hefyd ceir regalia amrywiol yn cynnwys cleddyfau a baneri sy'n rhan o'r seremoni gyffredinol.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Parc Pont-y-pŵl

Ffôn: 01495 766754

 

Nôl i’r Brig