Y Gerddi Eidalaidd

Dyweder i'r Gerddi Eidalaidd gael eu hadeiladu tua 1849/50. Maent yn seiliedig ar erddi Isola Bella ar Lyn Maggiore ble'r aeth Capel Hanbury Leigh ar ei ail fis mêl. Daethpwyd a phlanhigion o'r ardal hon yn ôl i Bont-y-pŵl yn ôl yr arfer ar yr adeg honno.  Mae'r gerddi'n cael eu nodi fel Gerddi Eidalaidd ar fap arolwg ordnans 1918 ond nid oes cyfeiriad o gwbl atynt ar fap 1881. Fodd bynnag, mae ardal debyg yn cael ei nodi, ond nid ei henwi, ar y map cynharach hwn.

Mae'n debyg i'r Gerddi Eidalaidd ddod yn fwy arwyddocaol pan gawsant eu rhoi i bobl Pont-y-pŵl gan Mrs Tenison, merch John Hanbury, i ddathlu ei dyfod i oed ym 1920. Cafodd y wal wen oedd yn rhedeg ar hyd Heol Hanbury ac a oedd yn cuddio'r gerddi rhag golwg y cyhoedd, ei thynnu ac adeiladwyd mynedfa newydd i'r Parc a ddaeth wedyn yn gofeb i'r rhai a gwympodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae'r planhigion yn yr ardal hon yn canolbwyntio ar samplau oedd yn ffasiynol o 1900 ymlaen.  Nodweddion diddorol eraill yw twnnel y dramffordd a llwybr yr afon sy'n cynnwys y gored tuag at Pontymoile.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Parc Pont-y-pŵl

Ffôn: 01495 766754

 

Nôl i’r Brig