Giatiau Pontymoile

Mynedfa Pontymoile oedd y fynedfa wreiddiol i Dŷ Parc Pont-y-pŵl oedd yn eiddo i'r teulu. Hanbury.  Roedd porthdy bach yn ymyl yr afon a gafodd ei ddymchwel yn y 1950au hwyr.

Mae'r giatiau eu hunain yn rhestredig Gradd II* gan CADW ac maen nhw'n cael eu hadnabod yn annwyl fel giatiau Sally.  Sally oedd Duges Marlborough ac yn ôl yr hanes roeddent yn anrheg i'r teulu Hanbury i ddiolch am eu help yn gweithredu ewyllys ei diweddar ŵr.

Mae ymchwil wedi dangos i'r colofnau a'r giatiau gael eu gwneud oddeutu 1850, ond cawsant eu newid yn hwyrach, fel y gwelir gan y bariau cŵn.  Mae'n debyg i hyn gael ei wneud i alluogi wagenni mwy ac yn hwyrach cerbydau modur i fynd i mewn i'r Parc.

Mae adroddiad yn rhifyn Rhagfyr 1933 o'r Pontypool Free Press yn nodi mai Mr T E Deakin gynhyrchodd y fanyleb ar gyfer y giatiau ym mis Gorffennaf 1835 a daethpwyd o hyd i hyn ymysg papurau oedd yn eiddo i Mr Stanley Tudor Roderick, y cerddor ac arweinydd band enwog o Bont-y-pŵl. (Mae'r safle seindorf yn y Parc wedi ei godi er cof am Mr Roderick a'r cyfraniad cerddorol a wnaeth i'r dref.)

Mae'r giatiau wedi cael eu hadfer yn defnyddio technegau traddodiadol gydag arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cadw a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Parc Pont-y-pŵl

Ffôn: 01495 766754

 

Nôl i’r Brig