Tîm ADP

Mae gan Dorfaen athro arbenigol sy'n rhoi cyngor a chymorth i ysgolion i ddiwallu anghenion llythrennedd eu disgyblion.

Bydd yr athro ADP ar gael i gwrdd â staff yr ysgol i drafod y plant sy'n derbyn cymorth ysgol ychwanegol, i helpu i adolygu cynnydd a threfniadau cymorth.

Gellir cefnogi disgyblion a nodwyd mewn nifer o ffyrdd:

  • trwy weithio mewn grwpiau gyda CCD wedi'i gefnogi gan gyngor ac arweiniad gan yr athro arbenigol.
  • trwy ddeunyddiau gwahaniaethol a strategaethau penodol a ddefnyddir yn y dosbarth
  • trwy asesiadau penodol a wneir gan yr athro arbenigol i helpu i lywio rhaglenni cymorth yr ysgol.

Llwybr Atgyfeirio

Cynigir mynediad i ymgynghoriadau timau i bob ysgol, a hynny i drafod anghenion eu disgyblion. Cynigir y cyfle hefyd iddynt fynychu sesiynau hyfforddi perthnasol.

Manylion Cyswllt y Gwasanaeth

Ceri Williams
E-bost: ceri.williams@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 09/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Cynhwysiant

Ffôn: 01495 766929 neu 01495 766968

Nôl i’r Brig