Gwasanaeth Allgymorth Torfaen
Mae gwasanaeth Allgymorth Torfaen yn darparu cymorth i bobl ifanc yn eu hysgolion a chymorth i staff sy'n gweithio gyda disgyblion. Maent yn gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cynnig dull cydgysylltiedig rhwng awdurdod lleol, ysgolion, teulu ac asiantaethau eraill. Gall ysgolion wneud atgyfeiriadau am gymorth i'r cyfarfod wythnosol. Maent yn darparu cymorth i reoli pryder, sgiliau cymdeithasol, rheoli ymddygiad, asesiadau, rhaglenni addysgu a dysgu ac amrywiaeth o ymyriadau eraill i gefnogi ysgolion i ddatblygu cynlluniau a chymorth i ddisgyblion.
Llwybr Atgyfeirio
Gwneir ceisiadau gan yr ysgol am ymgysylltiad yn uniongyrchol i'r gwasanaeth allgymorth, yn dilyn eu hymateb graddedig o ran ADY
Diwygiwyd Diwethaf: 09/02/2022
Nôl i’r Brig