Cynlluniau Gofal Iechyd
Gall angen meddygol fod yn un tymor byr neu dymor hir ac efallai na fydd yn effeithio ar allu dysgwr i fynychu lleoliad. Bydd adegau pan efallai y gofynnir i ymarferwyr hwyluso’r gwaith o roi meddyginiaeth reolaidd ar bresgripsiwn y dysgwr, neu fel achos brys fel rhan o gyflwr meddygol cymhleth, hirdymor.
Mae gan rai dysgwyr angen gofal iechyd sy'n galw am gynllun a hyfforddiant penodol, er enghraifft: plant â diabetes, alergeddau difrifol, epilepsi neu blant y mae angen eu bwydo gyda thiwb. Dylai cynlluniau a hyfforddiant priodol fod yn barod cyn i'r dysgwr ddechrau mewn lleoliad. Os felly, cynhelir cyfarfod gyda’r rhieni/gofalwyr a’r holl arbenigwyr perthnasol gan gynnwys y dysgwr os yw’n briodol.
I ddysgwyr ag anghenion mwy cymhleth, bydd y tîm iechyd arbenigol sy'n ymwneud â'ch plentyn yn cysylltu â'r ysgol ac yn darparu hyfforddiant ar gyfer gweithdrefnau fel rhoi meddyginiaeth brys ar gyfer epilepsi, bwydo â thiwb, trafod cathetr, a rheoli diabetes. Byddant hefyd yn datblygu Cynllun Gofal Iechyd ochr yn ochr â rhieni/gofalwyr a’r lleoliad i’w adolygu’n rheolaidd.
Gall ysgolion, rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill ofyn am gyngor gan wasanaethau meddygol a thimau arbenigol os ydynt yn teimlo y bydd angen cynllunio mwy gofalus a hyfforddiant staff ar gyfer anghenion plentyn.
Mae Cynllun Gofal Iechyd yn ddogfen sy'n cynnwys gwybodaeth gan weithwyr iechyd proffesiynol, nyrsys ysgol, rhieni, y dysgwr, a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill. Dylai gynnwys gwybodaeth allweddol a chamau gweithredu sydd eu hangen i gefnogi'r plentyn yn y lleoliad. Dylai'r cynllun gofal iechyd ddweud beth fydd y lleoliad yn ei wneud i helpu'r dysgwr i reoli ei gyflwr a goresgyn unrhyw rwystrau i gael y gorau o'u haddysg yn ogystal â beth i'w wneud mewn argyfwng. Bydd y cynllun yn cael ei adolygu o leiaf unwaith y flwyddyn neu’n gynt os yw anghenion y dysgwr wedi newid.
Asesu Risg/Cynllun Codi a Chario
Gall dysgwr ag anghenion corfforol gael anhawster symud neu anhawster symudedd, sy'n effeithio ar ei allu i gael mynediad i'r amgylchedd dysgu. Mae’n bosibl y bydd angen cymorth arnynt i gael mynediad i fannau yn y lleoliad neu efallai y bydd angen offer arbenigol arnynt i hybu annibyniaeth.
Mae yna lawer o ddysgwyr mewn ysgolion yn Nhorfaen ag ystod o anghenion corfforol; efallai y bydd angen codi a chario ar rai ohonynt i'w galluogi i gael mynd ar y llawr a/neu wahanol ddarnau o offer er enghraifft, fframiau sefyll, sedd wahanol. Os felly, bydd Cynllun Codi a Chario unigol* yn cael ei ysgrifennu. Mae Cynllun Codi a Chario yn rhoi gwybodaeth fanwl am y camau y bydd angen i staff eu cymryd i symud a thrafod y dysgwr yn ddiogel yn amgylchedd yr ysgol. Mae’r cynllun yn rhoi gwybodaeth am anghenion y dysgwr a sefyllfaoedd lle gall fod angen symud y dysgwr yn gorfforol i wahanol safleoedd a’r offer sydd ei angen i wneud hynny. Arbenigwr Codi a Chario sy'n ysgrifennu'r Cynllun Codi a Chario a hynny ar y cyd â darparu hyfforddiant priodol i staff. Bydd y cynllun yn cael ei adolygu o leiaf unwaith y flwyddyn neu’n gynt os yw anghenion y dysgwr wedi newid. Bydd y cynlluniau hyn yn cael eu cwblhau gan yr ysgol ar y cyd â chyngor gan swyddogion iechyd a swyddogion eraill.
Diwygiwyd Diwethaf: 09/02/2022
Nôl i’r Brig