Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni

Mae gan Dorfaen Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda SNAP Cymru. Mae SNAP Cymru yn darparu gwybodaeth a chyngor annibynnol am ddim i rieni plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae SNAP Cymru yn hyrwyddo gwaith partneriaeth effeithiol ac yn cydnabod pwysigrwydd cyfranogiad rhieni a phobl ifanc mewn penderfyniadau am Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol.

Fel deiliaid y Marc Ansawdd Arbenigol (SQM) mae ein gwasanaeth yn gweithredu i'r safonau uchaf. Mae gweithwyr achos yn cael hyfforddiant cyfreithiol annibynnol o ansawdd uchel. Maent yn angerddol am helpu pobl i oresgyn rhwystrau gan gynnig cymorth ac arweiniad sy'n diwallu anghenion teuluoedd.

Yr amcan allweddol yw ymyrryd yn gynnar i leihau’r posibilrwydd y bydd problemau’n gwaethygu, yn enwedig drwy gydweithio a phartneriaeth rhwng y teulu, yr ysgol a’r awdurdod lleol.

Llwybr Atgyfeirio

Llinell gymorth am ddim: 0808 801 0608

Gwefan: http://www.snapcymru.org

Facebook: http://www.facebook.com/SNAPCymru

E-bost: enquiries@snapcymru.org

Diwygiwyd Diwethaf: 09/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Cynhwysiant

Ffôn: 01495 766929 neu 01495 766968

Nôl i’r Brig