Gwasanaeth Addysg i Deithwyr

Mae Gwasanaeth Addysg i Deithwyr Torfaen yn darparu cymorth yn yr ysgol i gynorthwyo disgyblion Sipsiwn Roma Teithwyr (SRT) a’u hysgolion. Mae'r tîm yn gweithio ar sail allgymorth gan gefnogi disgyblion ar sail anghenion yn unol ag ymateb graddedig Torfaen a’r matrics cymorth. Bydd angen allgymorth ar lawer o bobl ifanc SRT a’u teuluoedd yn ystod addysg eu plant. Mae darpariaeth allgymorth yn hanfodol er mwyn meithrin perthnasoedd ymddiriedus gyda'r gymuned, cyfeirio, a gweithio gyda gwasanaethau a darparwyr eraill.

Mae’r gwaith a’r cymorth a roddir gan y Gwasanaeth Sipsiwn Teithwyr yn cynnwys:

  • Cefnogi trosglwyddo a derbyn disgyblion Sipsiwn a Theithwyr i Ysgolion Torfaen.
  • Cefnogi grwpiau bach/disgyblion unigol fel rhan o gynlluniau ysgolion.
  • Datblygu Llwybrau Dysgu priodol ar gyfer CA4 a phobl ifanc Sipsiwn a Theithwyr  ôl-16
  • Cefnogi teuluoedd i chwalu'r rhwystrau i ymgysylltu â dysgu
  • Ymgysylltu â phlant o oed chyn-ysgol a’u teuluoedd i gefnogi’r pontio i leoliadau blynyddoedd cynnar.
  • Cefnogi ysgolion i asesu anghenion a thargedu cefnogaeth ar gyfer pobl ifanc Sipsiwn a Theithwyr
  • Cydgysylltu ag ysgolion, rhieni ac asiantaethau eraill i gynyddu ymgysylltiad, cyrhaeddiad a dilyniant pobl ifanc Sipsiwn-Teithwyr.
  • Codi ymwybyddiaeth o ddiwylliant a ffordd o fyw Sipsiwn-Teithwyr
  • Darparu adnoddau sy'n adlewyrchu diwylliant Teithwyr
  • Monitro presenoldeb, cyflawniad, a lefelau cyrhaeddiad
  • Hwyluso cysylltiadau rhwng y cartref a'r ysgol a chefnogi teuluoedd i gael mynediad
  • Cefnogaeth Lles Addysg Ychwanegol lle mae plentyn angen anogaeth i fynychu'r ysgol.
  • Darparu amser cyswllt mewn grŵp bach neu 1:1
  • Cefnogi disgyblion sy’n sefyll arholiadau i gwrdd â therfynau amser gwaith cwrs a sefyll arholiadau Cymorth mentora i ddisgyblion

Llwybr Atgyfeirio

Gall yr ysgol neu’r teulu ofyn am gyswllt yn uniongyrchol gan y gwasanaeth.

Manylion Cyswllt y Gwasanaeth

Lynne Robinson
Ffôn: 01495 762080/ 07980288362
E-bost: lyn.robinson@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 09/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Cynhwysiant

Ffôn: 01495 766929 neu 01495 766968

Nôl i’r Brig