GEMS: Gwasanaeth Addysg Ethnig Lleiafrifol Gwent
Mae gan Dorfaen Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda GEMS i godi cyflawniad a chyrhaeddiad dysgwyr du a lleiafrifoedd ethnig (BME) (4-19 oed).
Gall GEMS ddarparu cymorth yn iaith y cartref os oes gennym staff sy'n siarad yr ieithoedd gofynnol. Mae’n bosibl mai dim ond am gyfnod cyfyngedig y bydd cymorth iaith y cartref ar gael ac mae’n dibynnu ar yr hyn sydd ar gael.
- Gall GEMS gynghori staff addysgu ar strategaethau, adnoddau, asesu ac arfer da cyffredinol i ddysgwyr.
- Gall GEMS ddarparu hyfforddiant am ddim ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â dysgwyr BME.
- Gall GEMS ddarparu gwasanaeth benthyca adnoddau i bob ysgol (Ffoniwch Claire Tyler ar 01633 851501 neu 01633 851505).
- Bydd GEMS yn cynghori ar bolisïau ysgol a chynlluniau gweithredu sy'n ymwneud ag anghenion disgyblion sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol (EAL), gan gynnwys newydd-ddyfodiaid.
Gall GEMS weithio mewn partneriaeth â staff dynodedig i sicrhau bod anghenion dysgwyr BME yn cael eu diwallu.
Gall GEMS ddarparu cyngor a/neu gefnogaeth arbenigol cyn unrhyw arolygiad Estyn.
Mae gan GEMS staff profiadol i roi cymorth gydag unrhyw faterion bugeiliol a/neu yn y cartref a all godi.
Cysylltwch â swyddfa GEMS ar 01633 851502 neu 01633 851505
Llwybr Atgyfeirio
Mae’r ysgol yn atgyfeirio’n uniongyrchol at GEMS a llenwi’r ffurflen cais am gyswllt.
Diwygiwyd Diwethaf: 09/02/2022
Nôl i’r Brig