Gwasanaeth Cymorth Synhwyraidd a Chyfathrebu (SenCom)

Mae’r timau yn SenCom yn darparu amrywiaeth eang o strategaethau cyngor ac ymyrraeth gan gynnwys dysgu. Rydym yn sefydliad sydd wedi ei ganoli ar y person ac mae ein lefelau ymyrraeth yn cyd-fynd ag anghenion newidiol plant a phobl ifanc unigol.

Fe’n lleolir gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac rydym yn gweithio’n rhanbarthol ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen gyda phlant a phobl ifanc, teuluoedd, ysgolion, colegau a lleoliadau’r blynyddoedd cynnar.

Ein nod yw bod yn bartner gyda theuluoedd ac ysgolion i gynnwys plant yn llwyddiannus ym mhob agwedd o fywyd ysgol a sicrhau bod eu taith dysgu heb rwystrau i gynnydd.

Mae’r Gwasanaeth yn cynnwys tri thîm o dan arweiniad Pennaeth Gwasanaeth.

ComIT (Tîm Ymyrraeth Cyfathrebu)

Gwasanaeth yw ComIT sydd wedi ei sefydlu ar gyfer plant ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu.

Nod ComIT yw diwallu anghenion ychwanegol plant a phobl ifanc sydd â diagnosis nad yw’n glinigol a phrif angen o Leferydd, Iaith a Chyfathrebu pan fo’r angen hynny’n effeithio’n ddifrifol ar ddysgu’r plentyn. Mae’r Tîm yn cynnwys Athrawon Cynghorol, Therapydd Lleferydd ac Iaith a Chynorthwywyr Dysgu Arbenigol

Mae gan bob awdurdod Berson Proffesiynol Arweiniol enwebedig sy’n cydlynu gyda’r tîm ac yn nodi ysgolion a disgyblion priodol ar gyfer Ymyrraeth gan ComIT. Gall y tîm weithio’n unigol neu gyda grwpiau o blant gan ddefnyddio prosesau adnabod a chefnogaeth trylwyr.

Sut mae cais am gefnogaeth yn cael ei wneud?

Mae ceisiadau i weithio gyda phlant yn cyrraedd ComIT trwy Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol.

Gwasanaeth Cymorth i Blant a Phobl Ifanc b/Byddar

Mae’r Gwasanaeth Cymorth i Blant a Phobl Ifanc b/Byddar yn wasanaeth i gynorthwyo plant a phobl ifanc y canfuwyd eu bod yn fyddar, i gyrraedd eu potensial yn llawn a chael y sgiliau angenrheidiol ar gyfer bywyd. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cefnogi cynhwysiant mewn ysgolion lleol. Mae’r tîm yn cynnwys Athrawon Plant a Phobl Ifanc Byddar a Chynorthwywyr Dysgu profiadol.

Mae’r Gwasanaeth Cymorth ar gyfer Plant a Phobl Ifanc b/Byddar yn dilyn Fframwaith Cymhwyster y Bartneriaeth Genedlaethol Nam ar y Synhwyrau, teclyn ar gyfer Gwasanaethau Synhwyraidd sy’n ceisio llywio penderfyniadau wrth ddyrannu cefnogaeth i blant a phobl ifanc unigol. Mae cefnogaeth y gwasanaeth yn ddeinamig ac yn annog cysylltiadau agos â’r cartref, yr ysgol ac asiantaethau eraill. Ein bwriad yw adeiladu gallu mewn ysgolion i ddiwallu anghenion disgyblion a rhoi cefnogaeth â ffocws mewn ymateb i anghenion newidiol plant a phobl ifanc.

Sut mae atgyfeiriad yn cael ei wneud?

Mae mwyafrif helaeth y plant yn cael eu hatgyfeirio gan Iechyd, serch hynny gallwn hefyd roi cyngor a chyfeirio rhieni neu bobl broffesiynol sydd â phryderon am glyw plentyn neu berson ifanc. Ar ôl atgyfeiriad, cysylltir â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol i drafod y plentyn neu berson ifanc. Gellir trefnu ymweliad â’r ysgol i asesu’r disgybl a chasglu gwybodaeth bellach

Gwasanaeth Nam ar y Golwg

Bwriad y Gwasanaeth Nam ar y Golwg (GNG) yw sicrhau bod dewis yn cael ei gynnig i blant, pobl ifanc a rhieni/gofalwyr. Mae arbenigedd ac adnoddau ar gael i ysgolion i hwyluso mynediad cynhwysol llawn i ddysgu. Mae sgiliau byw’n annibynnol a mudoledd yn cael eu dysgu gan arbenigwyr cymhwysiad GNG. Sefydlir dulliau cydweithredol i gefnogi a diwallu pob angen.

Gall y GNG ddarparu amrywiaeth o wasanaethau mewn perthynas ag anghenion unigol. Rydym yn cydweithio gyda plant a phobl ifanc sydd â nam ar y golwg neu amlsynhwyraidd, rhieni, ysgolion, gwasanaethau addysgol/gyrfaoedd ac asiantaethau meddygol i fodloni anghenion unigol fel y’u nodir trwy’r broses asesu.

Sut caiff atgyfeiriad ei wneud?

Rydym yn croesawu ymholiadau at atgyfeiriadau gan unrhyw un sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc ac sydd â phryderon ynglŷn â nam ar y golwg neu amlsynhwyraidd posibl.

Gallwch atgyfeirio am asesiad gan Athro Golwg a/neu Nam Amlsynhwyraidd Cymwys yma.

Manylion Cyswllt

Y Ganolfan Ddinesig
Pont-y-pŵl
Torfaen
NP4 7EJ

Ffôn: 01633 648888
E-bost: sencom@torfaen.gov.uk

Penaethiaid Gwasanaeth

Roger Thurlbeck - Pennaeth Gwasanaeth SenCom
E-bost: roger.thurlbeck@torfaen.gov.uk

Mary Jo Spearey & Rebecca Kelly - Pennaeth Gwasanaeth ComIT
E-bost: mary-jo.spearey@torfaen.gov.uk
E-bost: rebecca.kelly3@torfaen.gov.uk

Jo Plant - Pennaeth Gwasanaeth GNC
E-bost: joanne.plant@torfaen.gov.uk

Sarah Hughes - Pennaeth Gwasanaeth GNG
E-bost: sarah.hughes@torfaen.gov.uk

Sian Draper - Rheolwr Cymorth Busnes
E-bost: sian.draper@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 25/01/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Cynhwysiant

Ffôn: 01495 766929 neu 01495 766968

Nôl i’r Brig