Cacen pinafal sbeislyd a chwstard
Pam ddewison ni’r pryd hwn?
Dewis Ein Disgyblion
"Alla' i ddim aros i hwn fod ar y fwydlen eto, dwlu arno'r tro diwethaf!" Bailey, Ysgol Gynradd Llantarnam
Dewis Ein Dietegydd
"Rydyn ni'n benderfynol o ddefnyddio ffrwythau go iawn bob tro i felysu pwdinau yn naturiol, lle bo modd. Yma, rydyn ni'n defnyddio darnau o binafal yn y sbwng, gan gyfrannu at ein targed o fwyta 5 dogn o ffrwythau a llysiau y dydd. Mae ein cwstard wedi ei wneud gyda llaeth ffres, sy'n gyfraniad gwych at ofynion calsiwm (ar gyfer esgyrn a dannedd cryf) a sinc (ar gyfer tyfu'n iach a system imiwnedd iach) ein disgyblion.
Poeni am galorïau, braster neu siwgr? Rydyn ni'n meddwl yn ofalus am ein ryseitiau a’n bwydlenni i sicrhau nad yw disgyblion yn cael gormod o galorïau, braster na siwgr.
Rydw i’n mynd ati’n bersonol i ddadansoddi'r maeth ar fwydlenni ein hysgolion cynradd cyn eu cyhoeddi, i sicrhau eu bod y bodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer prydau ysgol. Mae hyn yn golygu eu bod yn cynnwys, ar gyfartaledd, tua thraean o ofynion maeth dyddiol disgyblion. Mae hyn yn cynnwys bodloni safonau ar gyfer calorïau, braster, braster dirlawn a siwgr."
Prydau Ysgol Cynaliadwy
Mwy o Gynnyrch Cymreig ar ein Bwydlenni - mae'r llaeth hanner-sgim a ddefnyddir yn ein cwstard wedi ei gynhyrchu yng Nghymru.
Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2025
Nôl i’r Brig