Sbwng jam a choconyt gyda chwstard
Pam ddewison ni'r pryd yma
Dewis ein Disgyblion
"Dyma fy hoff un i" Liam, New Inn
"Mae’r Sbwng Jam a Chnau Coco a Chwstard yn anhygoel – rwy’n dwlu ar y cwstard!"
"Bendigedig, peidiwch â chael ei wared!!" Zachary, Ponthir
Dewis ein Dietegydd
"Mae’r sbwng hwn yn rysáit iachach yn benodol ar gyfer ein disgyblion ysgol, gyda llai o fraster a siwgr ac wedi ei bobi gyda dogn bach o jam gan roi arlliw o felyster a lliw.
Mae ein cwstard, wedi ei wneud gyda llaeth ffres, yn cyfrannu at ofynion calsiwm y disgyblion (er mwyn cael esgyrn a dannedd cryfion) a sinc (ar gyfer twf iach a system imiwnedd iach).
Poeni am galorïau, braster neu siwgr? Mae ein ryseitiau a’n bwydlenni yn cael eu hystyried yn ofalus i sicrhau nad yw disgyblion yn cael gormod o galorïau, braster na siwgr.
Rydw i yn bersonol yn gwneud dadansoddiad maeth o fwydlenni ein hysgolion cynradd cyn eu cyhoeddi, i sicrhau eu bod y bodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer cinio ysgol. Mae hyn yn golygu eu bod yn cynnwys ar gyfartaledd oddeutu traean o ofynion maeth dyddiol disgyblion. Mae hyn yn cynnwys bodloni safonau ar gyfer calorïau, braster, braster dirlawn a siwgr."
Diwygiwyd Diwethaf: 15/12/2023
Nôl i’r Brig