Goujons cyw iâr gyda sgwariau tato mewn perlysiau, pys, bara a thaeniad

Chicken goujons served with herby diced potatoes, peas, bread and spread

Pam ddewison ni’r pryd hwn? 

Dewis Ein Disgyblion 

"Dw i’n eu hoffi nhw’n fawr iawn!" Max, Ysgol Gynradd Nant Celyn  

Dewis Ein Dietegydd 

NEWYDD ar gyfer 2025!!! 

"Rydyn ni’n gwrando ar ein disgyblion drwy’r amser. Ac maen nhw wedi gofyn i ni am y dewis poblogaidd hwn. Felly rydyn ni’n cynnig goujon mewn briwsion bara wedi'i wneud yn gyfan gwbl o fron cyw iâr, ac yn ei bobi yn y ffwrn fel dewis iachach. Rydyn ni’n cymryd gofal – yn unol â Safonau Llywodraeth Cymru, fe welwch chi nad oes mwy na 2 gynnyrch cig ar ein bwydlen mewn wythnos. Mae ein tatws mewn perlysiau yn cael eu pobi yn y ffwrn, ac yn ddewis o garbohydrad startsh sy’n rhyddhau egni’n araf trwy gydol y prynhawn. Ac, yn ôl yr arfer, mae disgyblion yn cael eu hannog i fwyta mwy o lysiau, ac mae’r pys gyda’r pryd hwn yn ddewis poblogaidd a hefyd yn ffynhonnell dda ar gyfer haearn." 

Prydau Ysgol Cynaliadwy 

Mwy o gynnyrch Cymreig ar ein Bwydlenni – dim ond bara a gynhyrchwyd yng Nghymru sydd ar ein bwydlenni ac yn ein clybiau brecwast, felly rydyn ni’n cefnogi ein heconomi lleol a’n swyddi lleol ac yn lleihau milltiroedd bwyd ar yr un pryd. 

Diwygiwyd Diwethaf: 16/09/2025 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon