Prydau Ysgol
Meddwl eich bod yn gwybod am Brydau Ysgol?
Nid yw prydau ysgol erioed wedi denu cymaint o sylw cyhoeddus, ac nid yw bwyd ysgol yng Nghymru erioed wedi bod mor faethlon ac amrywiol. Yma yn Nhorfaen rydym yn bwydo tua 6000 o ddisgyblion cynradd ac uwchradd bob dydd, yn ogystal â staff ac ymwelwyr. Yn unol â Safonau Llywodraeth Cymru rydym wedi lleihau'r braster, siwgr a halen yn ein ryseitiau, a chynyddu'r defnydd o ffibr a ffrwythau a llysiau, ymysg llawer o welliannau eraill. Mae ots gennym ni, a gellir ymddiried yn ein prydau ysgol i gyfrannu'n sylweddol at ddeiet iach ein pobl ifanc.
Ond hanner y frwydr yn unig yw gwneud y bwyd rydyn ni’n ei ddarparu mewn ysgolion yn iachach. Mae'n rhaid i bobl ifanc fod eisiau eu bwyta ac rydym wedi cyflawni hyn gyda gwaith caled a brwdfrydedd gan bob un o’r timau arlwyo ysgolion ar draws Torfaen, ac, wrth gwrs, y mewnbwn gwerthfawr gan ein disgyblion.
Yr hyn y gallwch ddisgwyl ei weld yn ein hysgolion
- Ffrwythau bob dydd
- Llysiau a/neu salad bob dydd
- Pwdinau ffrwythau o leiaf ddwywaith bob wythnos
- Pysgod bob wythnos
- Pysgod olewog o leiaf ddwywaith mewn 3 wythnos
- Darnau o gig o leiaf ddwywaith yr wythnos yn ein hysgolion cynradd a thair gwaith yr wythnos mewn ysgolion uwchradd
- Dim halen ychwanegol
- Cael gwared ar bob melysfwyd, fel bariau siocled, bariau grawnfwyd a losin; a chreision hefyd
- Ychydig o datws a chynhyrchion tatws wedi'u coginio mewn braster neu olew (dim mwy na dwywaith bob wythnos)
- Ychydig o fwyd wedi'i ffrio'n ddwfn neu wedi'i fflach-ffrio (dim mwy na dwywaith bob wythnos)
- Ychydig o gynhyrchion cig wedi'u prosesu
- Siopau ffrwythau yn ein hysgolion cynradd
- Llaeth am ddim i bob disgybl meithrin a babanod
- Brecwast iach am ddim yn y mwyafrif o'n hysgolion cynradd
- Hybu llaeth a dŵr i iechyd deintyddol yn y ffordd orau
Ar wahân i faeth, mae prydau ysgol yn cynnig llawer o fuddion eraill
- Hwylustod - arbed amser yn y boreau drwy beidio â gorfod paratoi pecyn bwyd, a dim pryderon ynghylch cadw bwyd yn ffres ac yn ddiogel tan amser cinio
- Y cyfle i roi cynnig ar fwydydd newydd
- Hybu gallu plant i ganolbwyntio ac i berfformio'n dda yn yr ysgol
- Hybu sgiliau cymdeithasol plant, moesau bwrdd a'r gallu i wneud dewisiadau gwybodus am brydau mewn amgylchedd diogel, dan oruchwyliaeth gyda ffrindiau
- Mwynhau bwydlenni thema hwyliog fel bwydlen arbennig Dydd Gŵyl Ddewi
- Gwerth am arian
Prydau Ysgol v Pecynnau Bwyd
Amser i ailfeddwl am becynnau bwyd? Nid oedd ymchwil a gynhaliwyd gan Brifysgol Leeds yn rhoi darlun cadarnhaol o gynnwys maethol pecynnau bwyd yn erbyn prydau ysgol, gyda llai na 2% o becynnau bwyd yn bodloni safonau prydau ysgol, gyda lefelau o Fitamin C, Fitamin A a Sinc wedi'u cofnodi i fod yn gwaethygu dros y blynyddoedd.
Mewn cyferbyniad uniongyrchol, mae ein prif fwydlenni yn cael eu dadansoddi o ran maeth gan ddietegydd ein timau i sicrhau bod bwydlenni'n cynnig 1/3 o ofynion dyddiol y disgyblion ar gyfer egni, braster, braster dirlawn, carbohydradau, siwgrau, ffibr, protein, haearn, sinc, calsiwm, Fitamin A, Fitamin C, ffolad, sodiwm.
Amser i ail-ystyried?
Diwygiwyd Diwethaf: 14/08/2020
Nôl i’r Brig