Llywodraethwyr Ysgolion
Mae rôl llywodraethwyr ysgolion wedi dod yn fwyfwy pwysig wrth fod disgwyl i gyrff llywodraethol wneud penderfyniadau strategol ar gyfer dyfodol eu hysgolion.
Mae llywodraethwyr yn chwarae rôl allweddol wrth arwain, cefnogi a gwella ysgolion. Maen nhw’n ddiduedd ac yn gwneud penderfyniadau ysgolion gyda’r bwriad o wella’r ysgol. Wrth wneud hyn, maen nhw’n gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a’u cyfleoedd yn y dyfodol.
Y prif gategorïau o lywodraethwyr ysgol yw:
- Llywodraethwyr cymunedol – sy’n cael eu penodi gan gorff llywodraethol yr ysgol i gynrychioli’r gymuned. Yn ddelfrydol, dylen nhw fod yn byw neu’n gweithio yn ardal cymuned yr ysgol.
- Rhiant-lywodraethwyr – rhieni plant sydd yn yr ysgol. Pleidleisir drostynt i fod ar y corff llywodraethol gan rieni eraill plant sydd yn yr ysgol.
- Llywodraethwyr awdurdod lleol – sy’n cael eu penodi gan yr awdurdod lleol.
- Llywodraethwyr o blith athrawon a staff – sy’n cael eu hethol i’r corff llywodraethol gan y staff perthnasol yn yr ysgol.
Mae yna gategorïau eraill o lywodraethwyr, gan ddibynnu ar y math o ysgol a’i chyfansoddiad. Gall nifer y llywodraethwyr sydd ym mhob categori amrywio, gan ddibynnu ar y math o ysgol a mwyafswm nifer y disgyblion y mae modd i’r ysgol eu derbyn.
Bod y llywodraethwr ysgol
Does dim angen unrhyw gymwysterau arbennig i fod yn llywodraethwr ysgol gan y byddwch yn cael hyfforddiant am ddim, ond mae angen i chi fod â:
- diddordeb yn nyfodol ein plant
- awydd i wneud gwahaniaeth
- amser ac egni
- parodrwydd i dderbyn cyfrifoldeb
- ymrwymiad i weithio mewn tîm
- brwdfrydedd i ofyn cwestiynau, gwrando a dysgu
- ysgogiad i helpu i ffurfio dyfodol addysg ym Mwrdeistref Sirol Torfaen.
Unwaith y byddan nhw wedi eu penodi, mae cyfnod llywodraethwr yn eu swydd yn parhau am bedair blynedd. Byddai disgwyl i chi fynd i dri chyfarfod o’r corff llywodraethol ym mhob blwyddyn ysgol, un ym mhob tymor, a chyfarfodydd pwyllgor, ble mae hynny’n berthnasol.
Mae’r rhan fwyaf o gyrff llywodraethol yn cyfarfod ddwywaith y tymor, cyfanswm o 6 gwaith y flwyddyn.
Gwnewch gais i fod yn rhiant-lywodraethwr
Os oes diddordeb gyda chi mewn bod yn rhiant-lywodraethwr, cysylltwch yn uniongyrchol â’r ysgol – Cyfeiriadur ysgol
Gwnewch gais i fod yn llywodraethwr cymunedol
Os oes diddordeb gyda chi mewn bod yn llywodraethwr cymunedol, cwblhewch gopi o’r ffurflen gais llywodraethwyr cymunedol a’i dychwelyd i’r ysgol y mae gennych ddiddordeb mewn bod yn llywodraethwr ynddi trwy – Cyfeiriadur ysgol
Gwnewch gais o fod yn llywodraethwr awdurdod lleol
Os oes diddordeb gyda chi mewn bod yn llywodraethwr awdurdod lleol, cwblhewch gopi o’r ffurflen gais llywodraethwyr awdurdod lleol a’i dychwelyd at andy.rothwell@torfaen.gov.uk
Mae cyfyngiad amser ar geisiadau ac, felly, rhaid i unrhyw geisiadau gael eu derbyn gan yr awdurdod lleol erbyn y dyddiadau a nodir.
Gwasanaeth Cefnogi a Datblygu Llywodraethwyr
Mae’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn cynnig hyfforddiant gorfodol a strategol i lywodraethwyr, yn ogystal â chyngor a chefnogaeth.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y Gwasanaeth Cyflawni Addysg
Diwygiwyd Diwethaf: 05/09/2023
Nôl i’r Brig