Addysg drwy Gyfrwng y Gymraeg
Ar gyfer rhieni/gofalwyr y mae'n well ganddynt i'w plant gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, mae'r Awdurdod ar hyn o bryd yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg mewn tair Ysgol Gynradd Cymraeg a leolir yng Nghwmbrân a Phont-y-pŵl. Mae'r ysgolion hyn yn darparu ar gyfer y galw ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Mae'r Ddarpariaeth feithrin ar gael yn yr Uned Feithrin ynghlwm wrth Ysgol Gymraeg Cwmbrân, Ysgol Bryn Onnen ac Ysgol Panteg ac yng Meithrinfa Pontnewydd ac Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl .
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl yn darparu ar gyfer plant 3-18 oed.
Bydd disgyblion sy'n mynychu ysgol Gymraeg yn derbyn cludiant yn unol â pholisi cludiant yr Awdurdod.
Mae enwau a chyfeiriadau'r gwahanol ysgolion a manylion am bolisi cludiant yr Awdurdod o ran addysg cyfrwng Cymraeg ar gael yn y Llyfryn Gwybodaeth i Rhieni/ Gofalwyr 2025/2026.
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGA)
Mae'n rhaid i gynghorau gyflwyno Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGA) i'w gymeradwyo i Lywodraeth Cymru. Mae WESP yn manylu ar ganlyniadau a thargedau'r Cyngor a Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu addysg cyfrwng Cymraeg. Gallwch chi lawrlwytho copi o Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Torfaen 2022-2032 yma.
Os ydych chi’n ystyried addysgu’ch plentyn trwy gyfrwng y Gymraeg a’ch bod am wybod rhagor am y gefnogaeth sydd ar gael yna gallai Canllaw Llywodraeth Cymru i Addysg Cyfrwng Cymraeg fod o gymorth.
Uned Drochi’r Gymraeg – Carreg Lam
Uned drochi yw Carreg Lam, ar gyfer disgyblion cynradd ym mlynyddoedd 2 i 6 sy’n dymuno symud i addysg cyfrwng Cymraeg.
Nod y ganolfan yw eu cefnogi i wella’r sgiliau a’r hyder y mae eu hangen arnynt i barhau i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn gyffredinol, bydd plant yn ymuno â’r uned am gyfnod dwys o ddysgu sy’n para tua 12 wythnos, cyn cael cyfnod o integreiddio a phontio i mewn i leoliadau Cymraeg prif ffrwd yn Nhorfaen.
Mae ein prospectws yn cynnwys llawer o wybodaeth defnyddiol i esbonio am ein canolfan drochi.
Am ragor o wybodaeth am Carreg Lam, ewch i www.carreg-lam.com
5 cyngor i helpu’ch plentyn gartref gyda Chymraeg
- Peidiwch â phoeni! Mae yna ddigon o gefnogaeth ar gael i chi
- Cadwch mewn cysylltiad â’ch ysgol – Ni allwn bwysleisio pa mor bwysig yw hyn. Eich ysgol chi a’r athrawon yw’r ffynhonnell orau am gyngor. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â nhw yn gyntaf. Dylent fod yn fan cyswllt cyntaf i chi bob amser
- Anogwch eich plentyn i siarad am eu tasgau gyda chi – Mae cael eich plant i egluro eu gwaith yn eu cael i gyfieithu ac addasu eu hiaith. Mae hyn yn dyfnhau eu dealltwriaeth o’r hyn sydd rhaid iddynt ei wneud ac yn cryfhau eu sgiliau iaith
- Nid yw’r Gymraeg ar gyfer yr ysgol yn unig – Nid i’r ysgol yn unig mae’r Gymraeg. Mae hi ar gyfer pob dim! Felly gwnewch y Gymraeg yn rhan o bethau rydych chi’n eu gwneud gartref fel canu a dawnsio i gerddoriaeth Gymraeg, gwylio’r teledu, fideos, coginio, celf a chrefft, chwarae gemau …
- Dewch o hyd i adnoddau ychwanegol a’u defnyddio – Mae yna lawer o adnoddau ar gael i’ch plentyn eu defnyddio gartref yn ogystal â’r hyn y mae eich ysgol yn ei ddarparu. Mae yna ddigwyddiadau Cymraeg i bob oedran a llawer o help gyda dysgu Cymraeg i oedolion!
Am ragor o wybodaeth a chefnogaeth, ewch i www.welsh4parents.cymru
Diwygiwyd Diwethaf: 29/07/2024
Nôl i’r Brig