Porth Taliadau Addysg (ar gyfer Prydau Bwyd a Theithiau)
Mae system heb arian parod wedi ei chreu ar draws bob ysgol, a bydd angen i bob rhiant sy'n dymuno talu am brydau ysgol ac eitemau ysgol, gofrestru arni.
Gelwir y system yn Civica Pay Education. Gallwch fewn gofnodi i’r Porth Taliadau Addysg a thalu’r ysgol yma.
Sut i gofrestru ar y system
Byddwch yn derbyn e-bost gan ysgol eich plentyn neu lythyr (os nad oes ganddynt eich cyfeiriad e-bost) yn eich gwahodd i gofrestru ar y Porth Taliadau Addysg.
Fe ddaw’r e-bost gan donotreply-education@civicapayments.co.uk Peidiwch â gofidio da chi, mae hwn yn e-bost dilys. “Civica” yw’r cwmni yr ydym yn gweithio ochr yn ochr ag ef ar y dechnoleg, felly mae’n ddiogel i agor yr e-bost. Ar ôl i chi gofrestru'ch manylion a chysylltu'ch plentyn gan ddefnyddio'r cod dilysu, rydych chi'n barod i ddefnyddio'r system dalu newydd.
Yn ystod y broses actifadu cewch eich tywys trwy broses i wirio'ch cyfeiriad e-bost a/neu rhif ffôn symudol a gosod cyfrinair i rywbeth sy'n gofiadwy i chi. Pwysig: rhaid i’r cyfeiriad e-bost a’r rhif ffôn symudol a ddefnyddiwyd i ddilysu, gyfateb i’r manylion a gedwir gan yr ysgol. Os ydych chi’n tybio bod y manylion yn anghywir, cysylltwch â’r ysgol. Dilynwch y cyfarwyddiadau hawdd eu defnyddio a chysylltwch gyfrif eich plentyn gyda'r cod dilysu un-tro rydych chi'n ei dderbyn.
Ar ôl cofrestru, gallwch ychwanegu cyfrif plentyn arall yn hawdd cyn belled â'ch bod wedi derbyn cais i gofrestru gyda chod actifadu ar gyfer yr ail blentyn rydych chi am ei ychwanegu.
Mae’r cod actifadu yn dod i ben ar ôl 7 diwrnod. Cysylltwch â’r ysgol os yw eich cod wedi dod i ben a gofynnwch am god newydd.
Er bod y system hon wedi cael ei chyflwyno ar draws pob ysgol yn y fwrdeistref, bydd pob ysgol yn gweinyddu ei phroses cofrestru cyfrif ei hun, felly efallai na fyddwch chi'n derbyn eich holl gofrestriadau gyda'i gilydd os oes gennych blant mewn gwahanol ysgolion.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â sut i gofrestru ar y system newydd, ewch i Cwestiynau Cyffredin am y Porth Taliadau Addysg.
Nodweddion Allweddol y Porth Taliadau Addysg
Bydd y Porth Taliadau i Rieni yn eich galluogi i:
- Dalu'n ddiogel gan ddefnyddio unrhyw ddyfais symudol, gliniadur neu gyfrifiadur personol ar gyfer yr holl weithgareddau y mae eich plentyn yn ymgymryd â nhw yn yr ysgol
- Creu un cyfrif y gallwch ychwanegu pobl plentyn iddo, hyd yn oed os ydynt yn mynychu ysgolion gwahanol yn Nhorfaen (ar yr amod bod yr ysgol yn tanysgrifio i Civica Pay).
- Gweld dangos fwrdd ar gyfer eich plentyn, sy’n cynnwys:
- Balans arlwyo prydau ysgol i'ch plentyn
- Opsiynau i ychwanegu symiau arian yn gyflym ac yn awtomataidd
- Rhestr o deithiau ysgol, clybiau a digwyddiadau sydd ar gael
- Rhestr o'r teithiau ysgol, clybiau a digwyddiadau sydd wedi'u harchebu
- Gweld trafodion a rheoli cyfrif prydau bwyd eich plentyn
- Trosglwyddo balansau rhwng cyfrifon prydau bwyd eich plant (os ydynt yn yr un ysgol)
- Talu am eitemau o siop yr ysgol i brynu eitemau fel llyfrau adolygu a gwisg ysgol
- Nodi'r dull o gysylltu â chi
- Gweld hanes archeb lawn gan gynnwys yr holl daliadau a wnaed
- Rheoli ac arbed eich cardiau yn ddiogel
- Ychwanegu nifer o eitemau i'ch basged gyda ffordd cyflym a hawdd i dalu
- Gofyn i weld y porth yn Gymraeg
- Gofyn am help wrth ddefnyddio’r Cwestiynau Cyffredin ar gyfer y Porth Taliadau Addysg
Cliciwch yma i wylio fideo cyflym yn dangos y system a gweld drosoch chi’ch hun pa mor hawdd ydyw i’w defnyddio
Manteision y Porth Taliadau Addysg
- Rheoli gweithgareddau ysgol a phrydau bwyd eich plentyn i gyd mewn un lle pryd bynnag a lle bynnag y dymunwch
- Tawelu'ch meddwl wrth wybod bod eich taliadau'n cael eu gwneud yn ddiogel gyda hanes trafodion ar gyfer pob gweithgaredd
- Dewis i ychwanegu symiau arian yn awtomataidd ar gyfer prydau ysgol fel bod eich balans arlwyo bob amser mewn credyd
- Gweld balansau arlwyo yn gyflym ac yn hawdd a'u trosglwyddo rhwng plant yn yr un ysgol
- Gweld pa brydiau bwyd a brynwyd a'u gwerth/swm a wariwyd
- Cadw a rheoli'ch cardiau er mwyn gwneud trafodion yn gyflym ac yn hawdd
- Gweld teithiau, clybiau a digwyddiadau sy'n benodol i'ch plentyn
- Talu rhandaliadau ar gyfer teithiau costau uchel a gweld eich balans/swm sy'n ddyledus
- Rhoi caniatâd ar-lein i'ch plentyn fynd ar deithiau a chyflawni gweithgareddau
- Derbyn unrhyw ohebiaeth wedi'i dargedu o'r ysgol yn uniongyrchol i'ch e-bost neu'ch ffôn
- Hawdd i'w defnyddio
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am y Porth Taliadau Addysg, anfonwch e-bost i educationpayments@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 29/04/2024
Nôl i’r Brig