Porth Taliadau Addysg - Cwestiynau Cyffredin

Sut ydw i'n cofrestru i ymuno â Phorth Addysg CivicaPay?

Bydd ysgol eich plentyn yn anfon e-bost neu lythyr cofrestru atoch yn eich gwahodd i gofrestru ar gyfer Porth Addysg CivicaPay.

Bydd yr e-bost / llythyr cofrestru yn cynnwys dolen i'r wefan a chod cofrestru unigryw

Sut ydw i’n dechrau fy nghyfrif?

I ddechrau eich cyfrif; cliciwch ar y ddolen yn yr e-bost cofrestru ac fe gewch eich tywys i’r dudalen gofrestru.

Unwaith y byddwch wedi cyrraedd y dudalen gofrestru bydd angen i chi greu cyfrif, gwirio’r cyfrif ac yna nodi cod unigryw ar gyfer eich plentyn. Bydd y cod unigryw hwn yn yr e-bost cofrestru

Fedrai gynnwys fy mhlant i gyd mewn un cyfrif?

Gallwch gael eich holl blant mewn un cyfrif - unwaith y byddwch wedi cofrestru'r plentyn cyntaf gallwch ychwanegu plentyn arall o ddangosfwrdd eich cyfrif trwy glicio ar y botwm Ychwanegu Plentyn.

Unwaith y byddwch chi ar y sgrin Ychwanegu Plentyn bydd angen i chi fewnbynnu'r cod unigryw y bydd yr ysgol wedi'i e-bostio atoch er mwyn i'r plentyn newydd gael ei ychwanegu at y cyfrif a darparu e-bost neu rif ffôn cyfatebol sydd gan yr ysgol ar eich cyfer chi..

Beth os yw fy mhlant mewn ysgolion gwahanol?

Os oes gennych blant mewn gwahanol ysgolion, a bod yr ysgolion hyn yn defnyddio Porth Addysg CivicaPay, yna byddwch yn gallu rheoli pob plentyn o'r un cyfrif.

Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair, beth ddylwn i wneud?

I ailosod eich cyfrinair ewch i'r dudalen fewngofnodi a chlicio ar y ddolen Anghofio Cyfrinair.

Yna gofynnir ichi ddarparu'ch cyfeiriad e-bost (dyma'r e-bost a ddefnyddiwyd i gofrestru'ch cyfrif) ac yna i glicio ar y botwm Anfon Cod Dilysu a fydd yn anfon y cod dilysu i'r cyfeiriad e-bost hwnnw.

Ar ôl i chi ddod o hyd i'r cod dilysu o'ch e-bost, rhowch y cod yn y blwch cod dilysu a chlicio dilysu'r cod.

Yna cewch eich tywys i sgrin ychwanegu cyfrinair newydd a gofynnir ichi ychwanegu cyfrinair newydd a hefyd i gadarnhau'r cyfrinair newydd hwnnw.

Nawr byddwch wedi ailosod eich cyfrinair yn llwyddiannus a byddwch yn gallu nodi'r manylion newydd i gael mynediad i'ch cyfrif.

Sut ydw i’n talu am giniawau fy mhlentyn?

Ar y dangosfwrdd o dan enw eich plentyn cliciwch ar y botwm Ychwanegu arian i ychwanegu arian at gyfrif y plentyn hwnnw.

Ychwanegwch y swm o arian rydych chi am ei ychwanegu a chliciwch ar y botwm Ychwanegu Arian.

Gwnewch yn siŵr fod y swm yn gywir ar y dudalen Basged a chlicio ar y botwm Talu.

Ar y dudalen Ychwanegu Manylion y Cerdyn, nodwch holl fanylion sydd eu hangen ar gyfer y cerdyn.

Os ydych chi am gadw manylion y cerdyn yn erbyn eich cyfrif, ticiwch y blwch neu fel arall cliciwch y botwm Talu Nawr.

Cymerir taliad o'ch cyfrif a'i ychwanegu at gyfrif arlwyo eich plentyn a bydd derbynneb yn cael ei e-bostio atoch

Sut ydw i'n gwybod bod fy nhaliad wedi'i ychwanegu at gyfrif fy mhlentyn?

I weld a yw'r taliad yng nghyfrif eich plentyn cliciwch ar ddewislen y dangosfwrdd ar frig y dudalen dderbynneb a gwirio bod y balans wedi'i ddiweddaru ar y dangosfwrdd.

Gallwch hefyd weld yn hanes trafodion talu - cliciwch ar y bar Mwy o opsiynau o dan enw eich plentyn ac yna cliciwch ar y ddolen Hanes Trafodion i weld y rhestr o drafodion talu ar gyfer eich plentyn.

Beth os yw'r arian yng Nghyfrif arlwyo fy mhlentyn yn rhedeg yn isel?

Ar y dangosfwrdd ar gyfer pob plentyn mae botwm Tanysgrifio sy'n eich galluogi i sefydlu swyddogaeth Ychwanegu Arian yn Awtomatig i reoli cyfrif arlwyo.

Cliciwch y botwm Ychwanegu'n awtomatig o dan lun eich plentyn i YMLAEN a naill ai dewis cerdyn sydd wedi ei gofrestru o'r blaen neu ychwanegu cerdyn newydd i gymryd taliadau ohono.

Bydd y testun ar y sgrin o dan y botwm Ymlaen/I ffwrdd yn dangos y swm y mae'n rhaid i'r balans arlwyo ddisgyn iddo cyn cymryd taliad yn awtomatig o'r cerdyn a gofrestrwyd.

Gosodwch y swm yr ydych am ei ychwanegu bob tro y bydd y balans arlwyo yn disgyn yn is na'r trothwy - dangosir hyn uwchben y blwch mewnbwn e.e. rhwng £10 a £100 fel arfer - Cliciwch ar fotwm Cadw i achub y gosodiadau hyn.

Pryd bynnag yr ydych am beidio ychwanegu'n awtomatig i gyfrif eich plentyn, gosodwch y botwm i I FFWRDD.

Sut ydw i'n arbed fy ngherdyn Debyd / Credyd pan fyddaf eisiau gosod Ychwanegu Awtomatig ar fy nghyfrif arlwyo?

Gellir gwneud hyn trwy ddangosfwrdd eich plentyn pan fyddwch yn ychwanegu at falans arlwyo eich plentyn, tanysgrifiwch i ychwanegu'n awtomatig.

Gallwch hefyd wneud hyn ar ddangosfwrdd y cyfrif trwy glicio ar yr eitem uchaf ar y ddewislen ‘Rheoli Cardiau’ - yma gallwch ychwanegu cerdyn newydd a’i gofrestru yn erbyn eich cyfrif.

Beth fydd yn digwydd os wyf am ddefnyddio cerdyn talu gwahanol i dalu am giniawau fy mhlentyn?

Ar ddangosfwrdd y cyfrif cliciwch yr eitem uchaf ar y ddewislen ‘Rheoli Cardiau’ - yma gallwch ddileu cerdyn sy’n bodoli eisoes ac ychwanegu a chadw un newydd yn erbyn eich cyfrif.

Pe bawn i'n cadw fy ngherdyn ar y system addysg, ydy'r manylion yn ddiogel?

Nid yw manylion eich cerdyn yn cael eu storio ar system Addysg CivicaPay - mae manylion cardiau yn cael eu hamgryptio ar system ddiogel ar wahân.

Diwygiwyd Diwethaf: 27/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Porth Taliadau Addysg

Ffôn: 01495 762200

E-bost: educationpayments@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig