Gwnewch gais am brydau ysgol am ddim i'ch plentyn
Trosolwg
Os ydych chi’n rhiant neu’n warcheidwad i blentyn yn yr ysgol, efallai y gallwch hawlio prydau ysgol am ddim ar eu cyfer.
Os yw eich plentyn yn yr ysgol gynradd, mae hyn yn golygu un cinio am ddim bob dydd. Ar gyfer plant yn yr ysgol uwchradd, mae’n golygu lwfans dyddiol i helpu i dalu am eu cinio.
Mae’r wybodaeth am bwy sy’n derbyn cinio ysgol am ddim yn breifat.
Mae prydau ysgol am ddim wedi newid
Mae'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim (eFSM) yn ei gwneud yn ofynnol i rieni a gwarcheidwaid cymwys wneud cais.
Ond gyda chyflwyno Prydau Ysgol am ddim i holl Blant Ysgolion Cynradd, bydd pob plentyn yn yr ysgolion cynradd yn Nhorfaen bellach yn eu derbyn.
Gwneud cais am eFSM i dderbyn cefnogaeth ychwanegol
Dylech wneud cais am eFSM o hyd os ydych ar incwm isel oherwydd:
- gallwch fod yn gymwys i dderbyn cefnogaeth arall, fel y Grant Hanfodion Ysgol
- gall eich ysgol dderbyn arian ychwanegol
Pwy sy’n gymwys
Efallai eich bod yn gymwys os ydych yn rhiant neu’n warcheidwad i blentyn yn yr ysgol gynradd ac yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol:
- Credyd Pensiwn
- Cymorth o dan Deddf Lloches a Mewnfudo 1999
- Credyd Cynhwysol
Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol, rhaid i enillion eich cartref fod yn llai na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw incwm o fudd-daliadau.
Gwneud cais
Gwnewch gais am eFSM os ydych yn gymwys hyd yn oed os yw eich plentyn yn derbyn Prydau Ysgol Am Ddim i holl blant Ysgolion Cynradd yn barod.
Gallwch wneud cais unrhyw bryd.
I wneud cais, bydd angen:
- eich manylion cyswllt
- manylion eich plentyn
- enw ysgol eich plentyn
- rhif Yswiriant Gwladol (os yw ar gael)
Gwneud Cais am Brydau Ysgol am Ddim / Grant Hanfodion Ysgol
Camau nesaf
Byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau os a phryd y bydd eich plentyn yn dechrau derbyn prydau ysgol am ddim.
Manylion cyswllt
Os oes genych unrhyw gwestiwn am eich cais neu mae angen help arnoch i wneud cais, gallwch:
Gallwch hefyd gysylltu â'ch ysgol os oes gennych unrhyw gwestiwn neu os oes angen cymorth arnoch i wneud cais.
Diwygiwyd Diwethaf: 08/07/2026
Nôl i’r Brig