Prydiau ysgol cynaliadwy
Mae Arlwyo Cynaliadwy Ysgolion yn ymwneud â diwallu anghenion disgyblion heddiw heb niweidio cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.
Mae Tîm Prydau Ysgol Torfaen yn credu'n gryf pan ddaw i'r rhan fwyaf o bethau, gan gynnwys cynaliadwyedd, ein bod yn atebol i'n disgyblion yn unig. Wedi'r cyfan, gall penderfyniadau sy’n cael eu heddiw gael effeithiau hirdymor cadarnhaol neu negyddol i'n disgyblion a'r gymuned ehangach.
Rydyn ni'n gwybod nad yw cynaliadwyedd mewn arlwyo ysgolion byth yn mynd i fod yn ateb cyflym. Mae'n bwnc enfawr. Ond rydym yn dîm gwydn â ffocws, ac rydym wedi ymrwymo i'r daith hirdymor. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol iawn o'r angen i fod yn onest yn ein mannau cychwyn ac yn dryloyw yn yr hyn yr ydym yn ei wneud, gan gyhoeddi targedau a chyflawniadau ystyrlon cynyddol, real a diriaethol.
Mae manylion ein cyflawniadau/cynnydd yn 2023/24 ym mhob maes yn y map taith cynaliadwyedd. Mae'r cyflawniadau hyn wedi ennill sawl gwobr genedlaethol i ni.
Er ein bod ni’n falch o'n cyflawniadau yn y cynllun dwy flynedd hwn, mae gennym ethos o welliant parhaus. Rydym yn gwybod na fydd cynaliadwyedd byth yn dasg a gaiff ei chwblhau, ac mae'r gwaith hwn yn 2023 a 2024 yn un garreg filltir mewn taith hir.
Esboniad o allyriadau carbon prydiau ysgol
Yn 2023 a 2024 gweithion ni gydag Athro ym Mhrifysgol Caeredin i fesur allyriadau carbon ein bwydlenni cynradd. Gyda 2 brif newid (ailgylchu ein gwastraff bwyd a chynnig dewis llysieuol/figan ychwanegol i bawb), fe wnaethom leihau ein hallyriadau tua 1/3 o bob cilogram o fwyd a weinir. Hyn i gyd wrth gynyddu'r dewisiadau sydd ar gael i'n disgyblion.
Ond tynnodd yr Athro sylw at feysydd ar gyfer gwella pellach posibl, ac nid ydym wedi gorffwys ar y rhwyfau.
Gyda gwelliannau i ryseitiau, rydym yn parhau i weithio ar leihau ôl troed carbon hoff brydiau disgyblion heb gyfaddawdu ar ansawdd, blas a maeth. Mae'r prydiau gyda'r allyriadau carbon uchaf ar ein bwydlen 2023 bellach yn sylweddol is yn 2025. Er enghraifft, gydag ychydig o newidiadau, mae ein rysáit Sbageti Bolognese wedi'i wella gydag allyriadau wedi'u gostwng dros 1/3, ac mae newid yn ein peli cig wedi lleihau'r allyriadau yn y dewis hwn 70%!
Bydd Dewis Disgyblion yn Nhorfaen bob amser yn allweddol. Ni fyddwn byth yn dweud wrth ddisgyblion beth ddylen nhw ei ddewis. Ond i'r rhai sydd â diddordeb, mae angen rhywfaint o wybodaeth i allu gwneud dewis gwybodus.
- Gan ddefnyddio dadansoddiad a chyfrifiadau'r Athro o'n ryseitiau, rydym bellach yn tynnu sylw at y prydau sydd â'r ôl troed carbon is gyda symbol a ddewiswyd gan ddisgyblion Ysgol Gymraeg Cwmbrân. Mae'r rhain yn ddewisiadau prydau bwyd a gadarnhawyd eu bod yn cynhyrchu 1.5cilogram neu lai o CO₂e y cilogram. Nid yw hyn yn seiliedig ar ddata generig, ond yn hytrach dadansoddiad annibynnol a thrwyadl o ryseitiau Torfaen ei hun.
- Mae poster yn cael ei arddangos yn ein neuaddau bwyta i esbonio ystyr y symbol newydd yma i ddisgyblion i'w galluogi i wneud dewis gwybodus, os ydyn nhw’n dymuno.
Rydym bob amser yn chwilio am adborth ac awgrymiadau gan ein disgyblion ynghylch yr hyn rydych chi'n meddwl y dylem fod yn ei dargedu. Anfonwch eich awgrymiadau at louise.gillam@torfaen.gov.uk. Eich dyfodol chi rydyn ni'n siarad amdano.
Diwygiwyd Diwethaf: 11/05/2026
Nôl i’r Brig