Arlwyo Ysgolion Uwchradd

Mae ein hysgolion uwchradd yn cynnig dewis ehangach ac iachach o fwydlenni a dewisiadau penodol nag erioed o'r blaen i mwy na 4,000 o ddisgyblion yr wythnos.

Mae dewisiadau llysieuol dyddiol ar y fwydlen safonol, ac mae amrywiaeth o seigiau cig coch a dofednod, pysgod olewog omega-3, reis a phasta ar gael yn ystod yr wythnos. Mae ein prydau bwyd hefyd yn cynnig mwy o ddewis o ffrwythau, llysiau a salad ffres. Ac rydym, wrth gwrs, wedi lleihau'r cynnwys braster, siwgr a halen yn ein ryseitiau, tra'n cynyddu ffibr. Yn ogystal â hynny, rydym yn defnyddio dulliau coginio fel stemio a phobi i sicrhau bod maetholion yn cael eu cadw, ac i wella ansawdd a blas.

Mae ein cogyddion yn gwrando'n ofalus ar yr hyn mae disgyblion am weld yn cael ei gynnig, ac maen nhw bob amser yn barod i addasu. Hefyd, fel un o'r ychydig o Dimau Arlwyo ysgolion yng Nghymru sy'n elwa o gael Deietegydd cymwys yn y tîm, yn ogystal â bod yn flasus, mae’r bwydlenni wedi'u cynllunio i gydymffurfio â'r safonau bwyd a nodir yn Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Rheoliadau a Safonau Maeth) (Cymru).

Mae prydau bwyd, staff cegin ac offer hefyd wedi elwa ar fuddsoddiad ac mae ein hysgolion yn meddu ar enw da am lanweithdra a hylendid. Mae ein staff wedi'u hyfforddi'n gynhwysfawr mewn hylendid bwyd, diogelwch bwyd, maeth a rheoli alergenau. Mae hyn oll wedi helpu i godi proffesiynoldeb staff arlwyo gan sicrhau eu bod yn meddu ar y sgiliau i ddarparu'r prydau ysgol gorau posibl.

Mae ein bwydlenni ysgol ar gael yma.

Diwrnodau Thema

Mae ein timau Arlwyo Uwchradd yn arwain y ffordd yn eu ‘Diwrnodau Thema’ poblogaidd, gan helpu i wneud bwyd ysgol yn hwyl ac yn addysgol, tra'n codi proffil gwasanaeth arlwyo'r ysgol fel hwb yr ysgol. Mae staff addysgu wrth eu boddau gyda diwrnodau thema gymaint â'r disgyblion gan eu bod nhw’n cysylltu bwyd yn greadigol â'r cwricwlwm ehangach a digwyddiadau cyfredol, tra'n annog ein disgyblion, wrth gwrs, i roi cynnig ar amrywiaeth o fwydydd gwahanol.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/01/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Prydau Ysgol

Ffôn: 01633 647716

E-bost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig