Ffiled eog mewn briwsion swigod* gyda sgwariau tato a pherlysiau, pys neu salad cymysg, bara a thaeniad
* Ffiled eog wedi’i gorchuddio â briwsion swigod o flawd reis/corn heb glwten
Pam ddewison ni’r pryd hwn?
Dewis Ein Disgyblion
"Dwlu arno " Violet, Ysgol Gynradd Dewi Sant
"Arbennig o dda " Sam, Ysgol Gynradd Dewi Sant
"Bawd i fyny!" Sereia, Ysgol Gynradd Dewi Sant
Dewis Ein Dietegydd
"Mae pysgod sy'n llawn olew, fel eog, yn ffynhonnell wych ar gyfer Omega 3. Mae Omega 3 yn un o’r "brasterau iachach" sy'n hanfodol yn y diet a gall helpu i amddiffyn y galon a'r pibellau gwaed rhag clefydau. Yn ogystal ag Omega 3, mae pysgod olewog yn ffynhonnell dda ar gyfer Fitamin A a D, a phrotein. Mae'r pysgodyn hwn yn cael ei bobi yn y ffwrn ar y safle i sicrhau nad oes unrhyw olew ychwanegol yn cael ei ychwanegu gan ein cogyddion pan fyddant yn ei baratoi.
Rydyn ni’n deall efallai nad yw rhai plant yn gyfarwydd â blas pysgod olewog, felly rydyn ni wedi dewis eog, sydd â blas llai cryf na rhai pysgod olewog eraill. Dydy’r rhan fwyaf o blant ddim yn sylweddoli bod y pysgodyn hwn yn wahanol i’r hyn maen nhw’n gyfarwydd ag ef. Mae wedi’i orchuddio â briwsion reis swigod (tebyg i ‘rice krispies’), felly rydyn ni’n gobeithio y gallai ddod yn ffefryn ymhlith ein disgyblion."
Prydau Ysgol Cynaliadwy
Pysgota Cynaliadwy – yn rhan o'n hymrwymiadau i'n cyfrifoldebau amgylcheddol, rydyn ni’n defnyddio eog sydd wedi'i hardystio gan MSC yn unig, felly gall ein disgyblion lenwi eu boliau gan wybod eu bod yn helpu i ddiogelu ein cefnforoedd, ein bywoliaeth a stoc bysgod y dyfodol.
Diwygiwyd Diwethaf: 22/10/2025
Nôl i’r Brig