Pitsa caws a thomato gyda sglodion a salad

Cheese and tomato pizza served with chips and side salad

Pam ddewison ni’r pryd hwn? 

Dewis Ein Disgyblion 

"Mae cystal â Domino’s" Oliver, Ysgol Panteg 

"Y pryd gorau yn y byd" Ruby, Ysgol Panteg 

"Rwy’n ei hoffi’n fawr oherwydd dyma fy hoff fwyd" Antek, Padre Pio 

"Rwy’n hoffi’r ffordd mae’r caws yn ymestyn" Daniel, Padre Pio 

"Roedd y pitsa yn lysh" Joey, Ysgol Gynradd Ffordd Blenheim  

"Roedd yn dda dros ben! Caru hwn!" Toby, Ysgol Gynradd Ffordd Blenheim  

"Mae’r pitsa’n anhygoel a byddai’n wych petai ar y fwydlen yn fwy aml" Pippa, Ysgol Gynradd Mair a’r Angylion 

"Rwy’n ei hoffi oherwydd dyma fy hoff eitem ar y fwydlen" Dylan, Ysgol Gynradd Mair a’r Angylion 

Dewis Ein Dietegydd 

"Rydyn ni’n defnyddio sylfaen pitsa gyda blawd gwenith cyflawn wedi’i ychwanegu, sy’n ffynhonnell wych ar gyfer ffibr, oherwydd dylai pob un ohonom fod yn anelu at fwyta mwy o ffibr i’n helpu i dreulio bwyd yna dda. Ar ei ben mae saws tomato cyfoethog a chaws, ac mae’n cael ei bobi yn y ffwrn, ac mae’n ffynhonnell dda ar gyfer calsiwm ar gyfer esgyrn a dannedd cryf. Mae ein sglodion, wrth gwrs, yn cael eu pobi yn y ffwrn i gyfyngu ar y braster a’r braster dirlawn. Anogir disgyblion i fwyta mwy o lysiau, ac yma rydym yn cynnig salad cymysg ffres ar yr ochr." 

Prydau Ysgol Cynaliadwy 

Mwy o gynnyrch Cymreig ar ein Bwydlenni – rydyn ni’n defnyddio caws Cheddar o Gymru bob tro ar ein pitsas, gan gefnogi ein heconomi lleol a’n swyddi lleol a lleihau milltiroedd bwyd ar yr un pryd. 

Diwygiwyd Diwethaf: 10/09/2025 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon