Selsig rhost gyda phwdin efrog, tatws wedi'u rhostio a'u berwi, dewis o lysiau, grefi

Pork Sausages with Yorkshire Pudding, Roast and Boiled Potatoes, Vegetables and Gravy

Pam ddewison ni'r pryd yma

Dewis Ein Disgyblion

"Pwdin Swydd Efrog yw fy hoff beth i a selsig yw’r peth gorau yn y byd" Toby, Ysgol Panteg

"Rwy’n ei hoffi oherwydd mae’n cael ei wneud mewn ffordd anhygoel ac mae’n flasus dros ben" Hunter, Llanyrafon

"Bendigedig, yn enwedig y Pwdin Swydd Efrog" Eden, Woodlands

"Oherwydd dyma’r pryd gorau yn y byd!" Martha, Padre Pio

"Rwy’n hoff o’r blasau" Verity, Greenmeadow

"Cinio syfrdanol o dda" Max, Blaenafon

"Y bwyd gorau yn y byd!" Emma, Llantarnam

"Mae’n neis iawn, a'r cinio selsig poeth yw’r cinio poeth gorau" Bella, Garnteg

Dewis Ein Dietegydd

"Dewison ni selsig yn ofalus i fod yn ddewis iach sydd wedi eu creu'n arbennig ar gyfer ysgolion gyda braster a halen is. Wedi dweud hynny, rydym yn ymwybodol fod selsig, fel cynnyrch cig (yn hytrach na chig cyffredin) yn fwyd wedi'i brosesu, a dylem ni i gyd fod yn cyfyngu ar faint yr ydym yn bwyta ohonyn nhw. Rydym am ofalu - byddwch yn gweld mae dyma’r unig gynnyrch cig sydd gyda ni ar ein bwydlen trwy gydol yr wythnos yma. Mae ein selsig a'n pwdin Efrog ill dau'n cyfrannu at lefelau haearn a sinc y pryd. Rydym yn rhoi dewis o lysiau i'n cogyddion (byth llai na dau), ac mae disgyblion yn cael dewis tatws wedi eu rhostio a'u berwi. Mae ein tatws rhost yn cael eu rhostio yn y popty gyda rhywfaint o olew yr olewydd sef y dewis mwy iach of fraster (nid dirlawn)."

Diwygiwyd Diwethaf: 18/12/2023 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon