Cacen siocled a diod llaeth

Chocolate brownie and glass of milk

Pam ddewison ni'r pryd yma

Dewis Ein Dietegydd

"Mae pwdinau blas siocled ymhlith ffefrynnau’r disgyblion, ond, peidiwch â phoeni, dydyn ni ddim yn defnyddio siocled na losin yn ein pwdinau. Yn hytrach rydyn ni’n defnyddio powdwr coco sydd â llai o fraster i roi’r blas siocled cyfoethog. Ac mae ein bwydlenni’n cael eu dadansoddi o ran maeth i sicrhau ein bod yn gweithio o fewn terfynau llym ar gyfer braster a siwgr. Yn ogystal, mae’r pwdin hwn, a weinir gyda diod o laeth, yn ffordd wych o gyfrannu at ofynion calsiwm disgyblion (ar gyfer esgyrn a dannedd cryf) a’u gofynion sinc (er mwyn tyfu’n iach a sicrhau bod y system imiwnedd yn iach)."

Diwygiwyd Diwethaf: 24/01/2024 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon