Dewis o ffrwythau a iogwrt
Pam ddewison ni’r pryd hwn?
Dewis Ein Disgyblion
"Mae’r ffrwythau’n neis iawn a’r afalau yn llawn sudd " Izzi-Mae, Ysgol Panteg
"Y salad ffrwythau – rwy’n ei hoffi oherwydd mae ganddo ffrwythau gwahanol ac mae’n felys ac yn llawn sudd " Mylee, Ysgol Panteg
"Rydw i’n hoff iawn o’r melon. Mae’n neis iawn, yn llawn sudd ac yn felys " Frankie, Ysgol Panteg
Dewis Ein Dietegydd
"Rydyn ni’n anelu at wneud y dewis iachach yn ddewis hawdd, felly mae ein iogwrt yn isel mewn braster ac yn isel mewn siwgr a hefyd yn ffynhonnell wych ar gyfer protein a chalsiwm. Caiff ei weini gyda dewis o ffrwythau ac mae’n cyfrannu at darged 5 y dydd eich plentyn, felly pa ffordd well o orffen pryd bendigedig?"
Prydau Ysgol Cynaliadwy
Ailgylchu mwy, llai o blastig untro - mae'r rhan fwyaf o ysgolion wedi newid o botiau iogwrt 100g unigol i dwb 5kg o iogwrt sy'n cael ei roi ar blatiau i leihau’r plastig untro sy'n cael ei ddefnyddio. Ac, wrth gwrs, rydyn ni’n dal i ailgylchu ein tybiau 5kg.
Mwy o gynnyrch Cymreig ar ein Bwydlenni – mae ein iogwrt yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru, gan gefnogi ein heconomi lleol a’n swyddi lleol a lleihau milltiroedd bwyd ar yr un pryd.
Diwygiwyd Diwethaf: 22/10/2025
Nôl i’r Brig