Byrgyr cig eidion mewn rholen gyda sglodion a phys
Pam ddewison ni’r pryd hwn?
Dewis Ein Disgyblion
"Anhygoel" Aria, Ysgol Gynradd Ffordd Blenheim
"5 Seren yr holl ffordd, mae MOR FLASUS!" Lianees, Ysgol Gynradd Ffordd Blenheim
"Iymi, mae’n flasus dros ben, 5 seren" Amelia, Ysgol Gynradd Ffordd Blenheim
"Rwy’n ei hoffi oherwydd mae mam yn ei goginio" Belle, Ysgol Gynradd Ffordd Blenheim
Dewis Ein Dietegydd
"Mae ein byrgyrs yn ffynhonnell ar gyfer haearn a sinc, a byth yn cynnwys llai nag 80% o gig. Maen nhw’n cael eu pobi yn y ffwrn bob tro. Rydyn ni’n cymryd gofal – yn unol â Safonau Llywodraeth Cymru, fe welwch chi nad oes mwy na 2 gynnyrch cig ar ein bwydlen mewn wythnos. Mae ein sglodion, wrth gwrs, yn cael eu pobi yn y ffwrn, er mwyn cyfyngu ar y braster a’r braster dirlawn. Mae ein rholiau wedi'u gwneud â blawd gwyn (wedi'i atgyfnerthu â haearn yn y DU) ac yn ddewis traddodiadol da i fynd gyda’r byrgyr. Mae disgyblion yn cael eu hannog i fwyta mwy o lysiau, ac mae’r pys gyda’r pryd hwn yn cyfrannu at eu 5-y-dydd ac yn ffynhonnell dda ar gyfer haearn."
Prydau Ysgol Cynaliadwy
Mwy o gynnyrch Cymreig ar ein Bwydlenni – mae ein rholiau bara wedi eu creu yng Nghymru, gan gefnogi ein heconomi lleol a’n swyddi lleol a lleihau milltiroedd bwyd ar yr un pryd.
Diwygiwyd Diwethaf: 10/09/2025
Nôl i’r Brig