Rholyn hufen iâ siocled

Chocolate artic roll and fruit

Pam ddewison ni’r pryd hwn? 

Dewis Ein Disgyblion 

"Anhygoel!" Arlo, Ysgol Gynradd Mair a’r Angylion 

Dewis Ein Dietegydd 

"Er nad oes llawer o haearn yn yr hufen iâ ei hun, trwy uwchraddio i rolyn hufen iâ  (hufen iâ mewn haenen allanol o sbwng), rydyn ni’n cynyddu cyfraniad y pwdin hwn at haearn, sinc a chalsiwm. A gyda dogn o ffrwythau sy’n cyfrif fel un o 5-y-dydd eich plentyn, mae’n siŵr o blesio! 

Poeni am y siocled? Mae pwdinau blas siocled yn ffefryn bob tro ymhlith y disgyblion ond, gallwch fod yn dawel eich meddwl o wybod ein bod ni ddim yn defnyddio siocled na melysion yn ein pwdinau. Rydyn i’n defnyddio powdr coco yn lle, i roi'r blas siocled cyfoethog y mae ein disgyblion yn dwlu arno.  

Poeni am galorïau, braster neu siwgr? Rwy'n dadansoddi bwydlenni ein hysgolion cynradd yn bersonol i weld beth yw eu cynnwys o ran maeth, cyn eu cyhoeddi, i sicrhau eu bod yn bodloni Safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer prydau ysgol. Mae hyn yn golygu eu bod yn cynnwys tua thraean o anghenion maetholion dyddiol disgyblion, ar gyfartaledd. Mae hyn yn cynnwys bodloni safonau ar gyfer uchafswm calorïau, braster, braster dirlawn a siwgr." 

Prydau Ysgol Cynaliadwy 

Mwy o ailgylchu, llai o blastig untro – dydyn ni ddim yn archebu ein hufen iâ mewn tybiau plastig untro ers meitin. Yma, mae’r rholyn hufen iâ wedi’i becynnu mewn cardfwrdd ac yn cael ei ailgylchu, wrth gwrs, gydag amrywiaeth o becynnau eraill. 

Diwygiwyd Diwethaf: 16/09/2025 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon