Costau ysgol a gofal plant
Y Cynnig Gofal Plant i Gymru
Mae Cynnig Gofal Plant i Gymru Llywodraeth Cymru yn golygu bod nifer o rheini plant 3 a 4 oed yn gallu derbyn cymorth gyda chostau gofal plant.
Mae hyn yn golygu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yng Nghymru i rieni cymwys. Mae’r 30 awr yn cynnwys lleiafswm o 10 awr o addysg gynnar pob wythnos a mwyafswm o 20 awr yr wythnos o ofal plant. Am wybodaeth, ewch i Y Cynnig Gofal Plant i Gymru (Gofal Plant 30 awr).
Budd-daliadau Tai neu Dreth y Cyngor
Os ydych chi’n talu costau gofal plant, efallai gallwn anwybyddu hyd at £175 (i un plentyn) a £300 (i ddau neu fwy o blant) o’ch enillion pan fyddwn yn gweithio allan eich hawl i Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth y Cyngor.
I gael mwy o wybodaeth ewch i dudalen Cymorth gyda Chostau Gofal Plant.
Prydiau Ysgol am Ddim
Mae pob disgybl o ddosbarth derbyn hyd flwyddyn 2 yn gymwys nawr ar gyfer prydiau ysgol am ddim yn Nhorfaen. Bydd yn cael ei gyflwyno i ddisgyblion hŷn mewn ysgolion cynradd o Fedi 2023.
Grantiau Datblygu Disgyblion
Llywodraeth Cymru i deuluoedd incwm isel i helpu gyda chostau gan gynnwys gwisg ysgol, esgidiau a gweithgareddau allgyrsiol. Am fwy o wybodaeth ewch ar ardal Grantiau Datblygiad Disgyblion ein gwefan.
Siopau Cyfnewid
Mae tîm Blynyddoedd Cynnar Cyngor Torfaen yn cynnal digwyddiadau Siopau Cyfnewid ar gyfer plant cyn oed ysgol, Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am to 3pm yn:
- Canolfan Integredig i Blant Cwmbrân, Ton Road, NP44 7LE
- Canolfan Integredig i Blant Pen-y-garn, Pen-y-garn, Pont-y-pŵl, NP4 8JR
- Canolfan Integredig i Blant Blaenafon, Middle Coed Cae Road, Blaenafon, NP4 9AW
Dim i’w gyfnewid? Peidiwch â phoeni, cymerwch eitemau a chyfnewidiwch pan allwch chi. Am fwy o wybodaeth, ewch at Torfaen Early Years on Facebook.
Cymorth Cynhaliaeth Addysg
Cymorth wythnosol o £30 ar gyfer myfyrwyr amser llawn 16, 17 neu 18 oed cyn 31 Awst. Am fwy o wybodaeth, ewch i gov.wales/education-maintenance-allowance
Cyngor
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen
Yn cynnig gwybodaeth a chyngor diduedd am ddim ar wasanaethau a chyfleusterau i blant, pobl ifanc a theuluoedd, gan gynnwys darpar rieni, yn Nhorfaen. Gallwn hefyd gyfeirio rhieni/gofalwyr at wasanaethau neu sefydliadau cymorth yn ôl ymholiadau unigol. Ewch i www.torfaenfis.org.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 14/12/2022
Nôl i’r Brig