Canolfannau Clyd
Gan ystyried y cynnydd yng nghostau byw a phryderon o gylch fforddiadwyedd cynhesu cartrefi yn ystod y gaeaf, mae cyfres o ganolfannau clyd wedi agor ledled Torfaen i gefnogi’r rheiny sydd wedi eu heffeithio fwyaf.
Mae’r cyngor yn cynnal canolfannau cynnes ym mhob llyfrgell yn Nhorfaen, yn ogystal ag un yn Nhŷ Panteg yn Nhref Gruffydd dan ofal Tîm Cyflogadwyedd Torfaen sy’n cynnig pryd poeth a diod am ddim.
Yn y canolfannau, gall trigolion ddisgwyl ymlacio mewn man cynnes, cymdeithasu ag eraill a derbyn cefnogaeth gan amrywiaeth o wasanaethau.
Mae canolfannau clyd yn Llyfrgelloedd Torfaen ar waith yn ystod oriau agor arferol, sydd ar gael yma:
Mae Croeso Cynnes Tŷ Panteg yn digwydd pob dydd Mercher, o 10am - 12pm.
Mae nifer o ganolfannau wedi eu sefydlu hefyd gan sefydliadau trydydd sector, prosiectau cymunedol a busnesau, ac mae’r rhan fwyaf i’w gweld ar wefan Cysylltu Torfaen - www.connecttorfaen.org.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 18/12/2023
Nôl i’r Brig